Dwi ddim yn wir hoffi llenwi’r rhestrau ‘ma, ond gan fod Nic wedi fy pasio hwn mlaen i fi, wnai rhoi gynnig arni.
Pedwar swydd dw i wedi’u cael
- Ffilmio gwaith ffordd yr M4 yn Llansawel (wel, profiad gwaith oedd e)
- Rhedeg caffi seiber yn y Steddfod
- Rhaglennwr gwefannau
- Gweinyddwr TG
Pedwar ffilm gallaf eu gwylio drosodd a throsodd
- Bladerunner
- The Italian Job (y gwreiddiol)
- Toy Story
- Y Dyn Nath Ddwyn y Dolig
Pedwar lle dw i wedi byw ynddyn nhw
- Penarth
- Caerdydd
- Bangor
- Aberystwyth
Pedwar rhaglen teledu dw i eu caru
Dwi am roi rhaglenni sy’ wedi bod mlaen yn ddiweddar.
- Stargate Atlantis/SG1
- Green Wing
- Time Team
- House
Pedwar lle dw i wedi bod ar wyliau
- Llydaw
- Dyfnaint
- Yr Alban (Caeredin, St Andrews)
- Ty Ddewi
Pedwar o’m hoff brydau bwyd
- Bîns ar dost
- Spaghetti Bolognese
- Hufen Ia Joe’s (ydi hwnna’n fwyd?)
- Cinio dydd Sul
Pedwar gwefan dw i’n ymweld â nhw bob dydd
- maes-e (ofiysli)
- Bloglines fel porth i llwyth o wefannnau arall
- Guardian
- New Scientist
Pedwar lle hoffwn i fod yn y munud hwn
- Yn y gwely
- Yn y bath
- Yn y gadair esmwyth
- Ar y lleuad
Pedwar blogiwr dw i’n eu tagio
Fyddwn ni wedi tagio pawb yn y byd blogio Cymraeg o fewn wythnos..
- Newydd Sbon (der mla’n Huw)
- Byd Hyfryd (person dirgel tu hwnt)
- Dotio (Mair)
- Crochenwaith
Gan Nic Dafis 18 Chwefror 2006 - 2:46 pm
Sori ychan, mae’n bach fel llythyr cadwyn ond yw e? Do’n i ddim yn meddwl am hynny ar y pryd, jyst wedi cyffro cael fy nhagio gan hen ffrind o Metafilter/1143 dw i ddim wedi siarad â hi ers rhy hir.