Newydd gael sbam gan gwmni o Pontypŵl yn hysbysebu arwyddion dwyieithog. Mi fase nhw wedi gwneud fwy o argraff petai’r ebost a’r wefan yn ddwyieithog. Ond neges Saesneg ydoedd (nodwch y gwallau)
I would like to introduce you to our new business.
If you require Welsh and Englisg Bilingual Signage for your
business or organisation then you may find the sign you require on
our website or you can receice our FULL catalogue via e-mail.
Nawr os oedd cwmni ar gael oedd yn gallu cynhyrchu arwyddion dwyieithog o bob math, gan sicrhau safon uchel o gyfieithu mi fydde hyn yn beth da iawn, i osgoi y broblem Scymraeg. Mae’r enghreifftiau o arwyddion ar eu gwefan yn eitha da – er fod y gair CYMRAEG wedi ei blastro ar draws y fersiwn Cymraeg am ryw reswm – mae’r cyfieithiadau i’w gweld yn gywir er fod ambell i wall yno.
Ond lle mae’r wefan Gymraeg (heb sôn am y techneg ofnadwy o ddefnyddio ffeiliau graffeg i greu tudalennau)?
Gan Rhys 24 Hydref 2005 - 1:33 pm
Diolch am y ddolen hwn, dwi’n meddwl gysyllta i gyda’r cwmni. Dwi’n gweithio i Fenter iaith mewn sir cyfagos (Caerffili) ac efallai byddai’n medru eu helpu i hyrwyddo eu cynnyrch tra’n annog busnesau lleol i gael arwyddion dwyieithog – hwyrach gai gomisiwn!
Mi wnai son wrthnt pa mor wirion yw cuddio’r rhan Cymraeg gyda CYMRAEG mawr hefyd. Mae’n anodd iawn darllen y Saesneg hyd yn oed, ond i mi mae’n bwysicach fyth medru darllen y Gymraeg er mwyn gallu gwneud yn sicr eu bod yn gywir.
Gan Ianto 16 Ionawr 2006 - 7:37 pm
Mae’r gair “Cymraeg” yn dal i guddio’r geiriau Cymraeg. Ond chwarae teg iddyn nhw eu bod wedi rhoi’r Gymraeg yn gyntaf ar yr arwyddion. Efallai taw un o’r cwmnïau yma sydd ddim yn rhy awyddus iawn i werthu’u cynnyrch yw hwn. Ffenomenon newydd nad oeddwn i’n gwybod amdano o’r blaen nes gweld y gwefannau ffwrdd-â-hi sy’n britho’r rhyngrwyd, fel yr un yma. Ond o leiaf mae ganddyn nhw ryw fath o droedle yn y rhithfod. Faint o siopau llyfrau Cymraeg sydd wedi agor gwefan? Rwy’n cofio mynd i Siop y Pethe rai blynnydoedd yn ôl (?1997) a gofyn Oes gwefan gennych chi? Nac oes. Ych chi’n meddwl gwneud gwefan? Nac y^n. 2006. Oes gwefan ganddyn nhw bellach? Nac oes! (Gan fy mod yn gweithio tu allan i Gymru, rwy’n tueddu i brynu’r hyn alla i ddim prynu yma – llyfrau Cymraeg, er enghraifft – ar y Rhyngrwyd).