Ning

Mae Marc Andreessen a Gina Bianchini wedi ffurfio cwmni newydd o’r enw Ning. Daeth Marc yn enwog ac yn gyfoethog am neidio ar heip y we gyda chwmni Netscape – mi roedd e’n ddyn busnes gwych ond mae yna farc cwestiwn dros ei gyfraniad technegol, tebyg i rywun arall cyfarwydd.

Y syniad tu ôl Ning yw ei fod yn galluogi unrhyw un i greu gwefan ar gyfer trefnu a dangos gwybodaeth, mewn ffordd sy’n fwy hyblyg na blog. Yn yr un modd y mae gwefannau blog wedi caniatau pobl i gyhoeddi gwybodaeth ar y we heb dalu am ofod ei hunain a heb wybod dim am raglennu, mae Ning yn cynnig yr un peth ar gyfer be mae nhw’n ei alw yn ‘rhaglenni cymdeithasol’.

Er mwyn creu gwefan ar Ning, does dim rhaid deall sut i raglennu – mae’n bosib cymeryd copi o wefan sy’n bodoli’n barod ac ei addasu. Ond mae’r cod yna i gyd os oes angen felly mae’n bosib newid neu ychwanegu at y rhaglen.

Mi fydd hi’n ddiddorol gweld sut y bydd hyn yn datblygu a pa mor llwyddiannus fydd y syniad. Dwi wedi arwyddo fyny fel datblygwr beta felly, os caiff fy nghais ei dderbyn, fe fyddai’n creu gwefan fel arbrawf. Mi fydd hi’n eitha diddorol gweld hefyd pa mor hawdd fydd cyfieithu’r rhyngwyneb hefyd.

Postiwyd y cofnod hwn yn Y We. Llyfrnodwch y paraddolen.