Blogio mewn cerddoriaeth

Daeth tri CD drwy’r post yn ddiweddar o label R-bennig sydd yn werth eu trafod. Y cynta yw Hwiangerddi Satanaidd Cymru (R-BEN 087) sydd yn ddisg arbrofol ac amrwd. Mae 10 trac fer o ryw fwystfil yn griddfan a rhygnu mewn cornel bell o rhyw ogof fawr. Os ydych chi’n gwrando yn astud mae’n bosib deall ychydig o’r hyn sydd yn cael ei ddweud – ni fydd hyn yn taflu unrhyw olau ar y mater – ogof dywyll iawn sydd yma.

Dyw Johnny R ddim yn hoffi blogiau. Neu yn fwy penodol, dyw e ddim yn hoff o flogiau cyffesol. Mi fyddai’n hawdd dadle fod nifer o flogiau yn cynnig llawer mwy na hynny ond mae Johnny wedi dewis trywydd arall sef, wrth gwrs, cyhoeddi blog ar ffurf CD. Mae un yn Saesneg – There ain’t no Warhol in Oriel Môn (R-BEN 086) a’r llall yn Gymraeg – Barddoniaeth Bloglyd (R-BEN 088) a’r ddau yn gasgliad o straeon/sylwadau/rants wedi ei lleisio dros loops amrywiol. Mae yna eitemau reit ddifyr yma yn wir – y cynta dwi am roi fyny yw’r trac fer ‘Bloglyd’ sy’n gofyn y cwestiwn ‘Sgen ti flog?’

Mae gweddill y traciau yn gymysgedd o atgofion neu sylwadau ffraeth ar Gymru heddiw (yn cynnwys canllaw ar sut i fw-io Rhys Mwyn). Bw yn yr ystyr ‘boo’ seisnig hynny yw – slepjan geiriol.

Wnai orffen gyda dau drac difyr – un Saesneg yn dilyn ‘diwrnod mewn bywyd’ Johnny R (faint o wirionedd sydd yn hwn tybed?) a’r llall yn hel atgofion am yr ysgol.

      Hefin Sgrech
[1.90MB]
      Bloglyd
[642KB]
      Day In The Life Of Me
[4.34MB]
      Atgofion Ysgol Rhan 1: Iawn Meds?
[2.86MB]

Postiwyd y cofnod hwn yn Cerddoriaeth, MP3. Llyfrnodwch y paraddolen.