Bwrdd gwaith poblogaidd ar gyfer system weithredu Linux yw Gnome a mae fersiwn 2.12 newydd ei ryddhau. Mae Gnome yn cael ei ryddhau mewn nifer fawr o ieithoedd a diolch i waith caled tîm gnome-cy mae 92.69% o’r llinynnau wedi eu cyfieithu i Gymraeg.
Mae’r rhaglenni pwysicaf o fewn y system wedi eu cyfieithu sy’n gadael tua 5 rhaglen fach ar ôl i’w taclo yn y dyfodol.
Gan Rhys Jones 14 Medi 2005 - 10:21 pm
Newydd sylwi ar hyn – diolch. Gwerth nodi fod nodiadau rhyddhau’r fersiwn a datganiad i’r wasg hefyd ar gael yn Gymraeg, am y tro cyntaf. Saesneg yw’r sgrinluniau ar hyn o bryd, ond rwy’n gobeithio wnaiff hynny newid yn eitha buan…