Dwi’n meddwl wnai ddanfon fy gwynion am safon y cyfieithu a’r holl gamgymeriadau ar wefan Llywodreath y Cynulliad.
Archifau Categori: Scymraeg
Y We Scymraeg
Yn parhau y thema, des i ar draws wefan cwmni Galeri, sy’n “asiantaeth o fri” ar gyfer cantorion, cerddorion. Mae’r dudalen gyntaf yn cynnig dewis iaith gyda’r baneri bondigrybwyll, ond beth am y tu fewn? Dyw’r cyfieithiadau ar y dudalen gartref Cymraeg ddim yn dechrau da – “cleientydd logiwch yma”, “Digwyddiadau ar ddod”. Does neb wedi cyfieithu’r newyddion Cymraeg chwaith, felly mae yna dudalennau deniadol Null.
Mae’n anodd credu fod rhai cwmnïau yn hapus i gael wyneb cyhoeddus mor druenus ond efallai dyliwn i wybod yn well hefyd erbyn hyn.
Wythnos Byw’n Iach
Mae Wythnos Genedlaethol Byw’n Iach yn cael ei gynnal wythnos nesaf, yn cael ei drefnu gan grŵp o aelodau’r Cynulliad. Does dim fersiwn Gymraeg ond fel mae nhw’n dweud, dy’n nhw ddim yn rhan o’r Llywodraeth felly ‘sdim ots nag os?
Ond fel mae sylw gan yr Atal Genhedlaeth yn dangos, efallai nad yw hyn yn beth drwg – edrychwch ar y ffeil PDF yma. Er enghraifft, mae’r teitl “Ever felt there are things you should change to improve your health?” yn cael ei gyfieithu i “Byth ffeltio mae na pethau dylet chi newid I gwella eich iechyd?“. Creadigol iawn ond ddim cystal â fersiwn Tranexp – “Bob amser balfaledig mae bethau ddylasech chyfnewid at gwella ‘ch hiachâd?“
Buchedd quotes
Newydd ddod ar draws un arall o’r gwefannau chwerthinllyd hynny wedi’u cyfieithu drwy feddalwedd TranExp (wnaeth y cwmni seilio ei geiriadur Cymraeg ar wybodaeth wnaethon nhw ‘fenthyg’ o’r we a fe wnaethon nhw gamdeall y fformat mae’n debyg).