S4/Cywasgu Digidol

Fe wnes i sôn mewn cofnod blaenorol ynglŷn a dirywiad ansawdd lluniau S4C. Mae’n eitha anodd disgrifio y newid heb wylio deunydd wedi ei recordio cyn ac ar ôl y newid. Felly dwi wedi creu graff sy’n dangos y newid yn gliriach.

I esbonio’r cefndir yn syml, mae casgliad o sianeli yn cael eu darlledu ar un amlblecs a mae’r lluniau yn cael eu cywasgu er mwyn gwneud defnydd effeithiol o’r gofod cyfyngedig. Mae cyfradd data (didradd) unrhyw sianel yn newid yn sylweddol gan ddibynnu ar pa mor llonydd neu brysur mae’r llun. Mae pob sianel yn gosod isafswm ac uchafswm ar ei didradd nhw. Mi ddylai hyn sicrhau fod y llun bob amser o safon derbyniol ond heb fod yn farus drwy gymryd yr holl ofod ar yr amlblecs.

Mae’r isafswm ac uchafswm yn amrywio yn ôl pwysigrwydd y sianel fel arfer. Mae llawer o’r sianeli “+1” a sianeli siopa masnachol yn fodlon gweithredu ar ansawdd gwaeth oherwydd nad ansawdd y llun sy’n bwysig.

At y graff felly (cliciwch arno am olwg yn fwy)

Didradd sianel Freeview

Mae’r graff yn dangos sut mai ‘uchafswm’ didradd S4C wedi dirywio ers symud i amlblecs ‘Mux 2’ ar y 9fed o Fedi 2009. Roedd yr uchafswm blaenorol tua 7,000 Kbps sy’n hynod uchel (yn fwy na’r BBC). Dyw hyn ddim yn syndod am fod S4C yn arfer darlledu ar yr amlblecs ‘rhodd’ oedd wedi ei wobrwyo i S4C gan Ofcom fel rhan o ddatblygiad teledu digidol. Ond sylwch fod yr isafswm yn isel – tua hanner y prif sianeli eraill.

Fe wnes i gymryd y mesuriadau yma dros gyfnod o 30 munud ar adegau tebyg o’r dydd am fod y cyfradd yn gallu newid yn sylweddol drwy’r dydd ac yn ystod rhaglen.

Ar ôl 9/9/9 fe ddisgynnodd yr isafswm i tua 500 Kbps, lle mae gan y sianel eraill isafswm o 1,500 Kbps. Yn yr wythnosau diwethaf mae hyn wedi codi yn ôl tuag at 800 Kbps.

Y newid mwya yw fod yr uchafswm wedi disgyn yn sylweddol – mae e nawr o dan 4,000 Kbps a mae hyn yn effeithio ar y cyfartaledd, sydd tua 2,000 Kbps. Mae hyn yn ofnadwy o isel ar gyfer cywasgiad MPEG-2, fel y gwelwch chi o gymhariaeth gyda’r sianeli eraill.

Felly yn ei leoliad newydd ar Freeview mae S4C Digidol yn sianel israddol a dwi ddim yn gweld fod gan S4C llawer o reolaeth yn y mater gan nad ydyn nhw bellach ar yr amblecs y wobrwyd iddynt gan Ofcom yn y lle cynta. Y cwestiwn yw – oes yna unrhyw un ar ôl yn y byd darlledu sy’n poeni am safonau technegol?

Postiwyd y cofnod hwn yn Technoleg, Teledu. Llyfrnodwch y paraddolen.

5 Responses to "S4/Cywasgu Digidol"