daflog

Disc a Dawn

Dyma glip bach o Disc a Dawn, y rhaglen cerddoriaeth bop cyntaf yn Gymraeg. Mae Ronnie Davies yn cyflwyno Meic Stevens yn canu ‘Y Brawd Houdini’. Mae Alan Freeman yn tros-leisio hwn felly mae’n siwr fod y clip yma o rhaglen ddogfen. Roedd y dyn camera ar asid, gyda llaw.

  • Cyhoeddwyd: Ebrill 5, 2006
  • Categori: Y We
  • Sylwadau: 1

Gwefan Cyngor Caerdydd

Dwi newydd sylwi fod gan Gyngor Caerdydd wefan newydd o’r diwedd. Roedd yr hen un yn warthus a felly mae’n dda gweld unrhyw welliant. Mae’n werth gwneud adolygiad byr o sut hwyl mae nhw wedi cael arni, o safbwynt technolegol yn bennaf:

Dylunio – Dyw e ddim yn hynod drawiadol ond mae’n ddigon effeithiol yn ei bwrpas fel gwefan i rannu wybodaeth. Mae’n gweithio ymhob maint sgrîn ond mae nhw’n newid maint y lluniau yn ogystal a’r cynllun wrth newid maint y porydd sy’n gwneud y lluniau edrych yn eitha gwael ac amhroffesiynol.

O ran yr arddull (mewn CSS), mae’n edrych mai dim ond yn Internet Explorer mae’r cynllun wedi ei profi. Edrychwch ar y dudalen yma yn Firefox neu Safari er enghraifft. Mae yna wall yn Safari (diolch Huw) lle mae testun yr ‘allweddau mynediad’ (access keys) yn ymddangos (bach o CSS amheus gyda z-index os ydych chi wir eisiau gwybod) . O… a mae ei favicon nhw yn hynod o naff.

Dwyieithrwydd – Mae’r strwythur yn gwbl ddwyieithog er fod cryn dipyn o’r cynnwys ddim ar gael yn Gymraeg eto. Mae safon yr iaith yn dda iawn o’r hyn dwi wedi weld, fel yr hen wefan i ddweud y gwir. Un peth rhyfedd yw fod rhai adrannau ddim yn dangos pan nad yw’r cynnwys wedi ei gyfieithu a felly yn dangos tudalennau gwag, cymharer y newyddion Cymraeg a Saesneg.

Rhywbeth diddorol arall yw eu bod yn cynnig fersiynau Ffrangeg, Almaeneg, Eidaleg a Sbaeneg o’r wefan drwy wasanaeth Babelfish sydd, er ei fod yn ddefnyddiol, ddim yn adnabyddus am gywirdeb y cyfieithiad.

Llywio – Mae prif adrannau y wefan yn ddigon clir ac o fewn pob adran mae bwydlen ar y chwith gyda, ar y mwyaf, tri is-lefel. Yn anffodus, mae trefn y fwydlen yma yn symud yr adran gyfredol i’r brig hyd yn oed pan mae adrannau arall yno, sy’n hynod o ddryslyd wrth bori drwy’r adrannau. Er enghraifft, ymwelwch a’r dudalen yma yna dewiswch rhai o’r is-adrannau (Pecynnau’r Wasg | Areithiau | Bywgraffiadau | Ffeithiau a Ffigurau).

Arall – Mae yna wasanaeth eitha diddorol ‘Siarad gyda Asiant‘ sef sgwrs fyw ar y wefan. Mae yna rybudd “O ganlyniad i natur y dechnoleg hon, ni allwn warantu y bydd ein hymateb na’r sgwrs yn ramadegol gywir.”. Mewn geiriau arall, allwn ni ddim warantu y bydd ein staff yn gallu ymateb gywir ac yn ramadegol!

Crynodeb: Mae cyngor mwya’ Cymru wedi bod ar ei hôl hi gyda datblygiad ei gwefan ond mae nhw nawr nôl i’r un safon a rhai o’r cynghorau arall a ddim yn embaras bellach. Mae’n wefan sylfaenol a safonol ond does dim llawer o nodweddion sy’n ychwanegol i’r arfer – dim porthiant RSS ar gyfer y newyddion, swyddi er enghraifft. Felly 7.5/10 am yr ymdrech a gobeithio y byddant yn parhau i addasu’r wefan wrth gael sylwadau o’r defnyddwyr.

Llyfr ffôn BT

Mae BT wedi lansio fersiwn Gymraeg o’i gwasanaeth ‘llyfr ffôn’ ar y we.

Doedd fy chwiliad cynta arno ddim yn rhyw lwyddiannus iawn:
Sgrîn-lun o Llyfr Ffôn BT

Mae’n rhwydd lansio gwefannau gyda wyneb Cymraeg – peth anoddach yw lansio gwasanaethau sy’n gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg. Yn ôl Alun Pugh mae BT “yn enghraifft dda o gwmni sy’n dangos y ffordd yn nhermau’r gwasanaethau y mae’n eu cynnig yn y ddwy iaith”. Yn anffodus Alun, dilyn mae BT wedi gwneud erioed, nid arwain.

Dreigiau Cymru

Mae rhai aelodau o’r Cynulliad wedi bod yn grwgnach, yn ei modd arferol am ail-frandio y WDA a’r Bwrdd Croeso gyda logo newydd. Mae’n amlwg nad yw’r gwleidyddion yma yn deall rhwng brand a logo. Mae brand yn cwmpasu y ‘neges’ a’r syniadau sy’n cael ei cyfleu gan y cynnyrch – sef Cymru yn yr achos yma; fel gwlad, rhywle i wneud busnes a fel cyrchfan gwyliau.

Nid y logo sy’n cyfleu hynny ond y ddelwedd o’r cynnyrch sy’n cael ei werthu drwy ddeunydd marchnata, a thrwy profiad pobl sy’n ymweld a Chymru am fusnes neu pleser. Mae logo yn bwysig fel symbol i ddal sylw ond nid gwerthu tiniau Coke yw’r pwrpas, ond delwedd ac adnabyddiaeth. I ddweud y gwir, wrth werthu gwlad a diwylliant, rhan fach o’r ateb yw logo – mae pobl yn llawer mwy tebygol o gofio ac ymateb i ddelweddau o dirlun, adeiladau a phobl.

Mae Mike German wedi cwyno am “logo draig arall eto”. A mae Nick Bourne yn dweud fod y ddelwedd yn ystrydebol cyn mynd ymlaen i ddweud “if it’s not, broke don’t fix it” sydd ychydig yn gymysglyd a dweud y lleia. Mae’n amlwg nad oedd defnydd o ddraig mewn logo wedi ‘torri’ a felly dyw hi ddim wedi ei ‘trwsio’.

Dreigiau haniaethol oedd logos y WDA a’r Bwrdd Croeso a mae yna ddau arall yn logo y Cynulliad a’r Llywodraeth. Dwi’n deall felly – roedd hi’n iawn i’r WDA a’r Bwrdd Croeso ddefnyddio logo draig jyst am ei fod felna erioed, ond dyw hi ddim yn iawn ail-ddylunio’r ddau logo a’i cyfuno (sy’n arbed arian yn y pendraw). Dwi ddim yn cofio’r gwleidyddion yn cwyno pan wnaeth y WDA wario (wastio) £160,000 er mwyn i gwmni o Lundain newid ei logo o un draig i… ddraig arall gyda lliw ychydig bach yn wahanol!
WDA logo loco

Telex

Telex.. hen ddyfais gyfathrebu oedd yn gymysgedd o ebost a ffacs – mi roeddech chi’n teipio’ch neges ar bysellfwrdd a roedd y testun yn cael ei ddanfon drwy’r rhwydwaith ffôn i argraffydd ar y pen arall. Ta waeth, mae e hefyd yn enw ar un o arloeswyr electro-pop y ganrif ddwetha’. Meddyliwch am Kraftwerk gyda hiwmor sy’n llai sych a difrifol.

Un o’i senglau mwya’ oedd Moskow Diskow a mae gen i frith gof o weld ei perfformiad hynod ar gystadleuaeth yr Eurovision yn 1980. Wnaethon nhw ryddhau 5 albwm cyn ‘gorffwys’ yn 1986.

Wel mae’r band o wlad Belg nôl gyda albwm newydd, sydd yn gymysgedd o electronica gyda dylanwadau o gerddoriaeth dawns mwy diweddar. Gwrandewch ar glipiau o’r caneuon newydd a phodlediad difyr ganddynt.

© 2009 Dafydd Tomos. Cedwir Pob Hawl.

Pwerir gan Wordpress a thema Magatheme gan Bryan Helmig.