daflog

  • Cyhoeddwyd: Medi 30, 2005
  • Categori: Radio, Technoleg
  • Sylwadau: Comments Off

Radio Digidol

Mae’r BBC wedi cyhoeddi y bydd radio digidol (DAB) yn ehangu i dri drosglwyddydd newydd yng Nghymru, sef Blaenplwyf, Preseli a Llanddona, yn ystod y flwyddyn nesaf.

Mae’n bosib fod y sylw i radio digidol wedi lleihau yn y blynyddoedd diwethaf gan fod sianeli radio i’w clywed ar lein a thrwy setiau teledu digidol. Er hyn mae angen parhau i ehangu cyrhaeddiad DAB gan ei fod yn cynnig posibiliadau diddorol ar gyfer y dyfodol – sianeli arbennigol fel Radio Acen er enghraifft, sydd ar gael yn ardal Abertawe.

  • Cyhoeddwyd: Medi 28, 2005
  • Categori: Cerddoriaeth, MP3
  • Sylwadau: Comments Off

Blogio mewn cerddoriaeth

Daeth tri CD drwy’r post yn ddiweddar o label R-bennig sydd yn werth eu trafod. Y cynta yw Hwiangerddi Satanaidd Cymru (R-BEN 087) sydd yn ddisg arbrofol ac amrwd. Mae 10 trac fer o ryw fwystfil yn griddfan a rhygnu mewn cornel bell o rhyw ogof fawr. Os ydych chi’n gwrando yn astud mae’n bosib deall ychydig o’r hyn sydd yn cael ei ddweud – ni fydd hyn yn taflu unrhyw olau ar y mater – ogof dywyll iawn sydd yma.

Dyw Johnny R ddim yn hoffi blogiau. Neu yn fwy penodol, dyw e ddim yn hoff o flogiau cyffesol. Mi fyddai’n hawdd dadle fod nifer o flogiau yn cynnig llawer mwy na hynny ond mae Johnny wedi dewis trywydd arall sef, wrth gwrs, cyhoeddi blog ar ffurf CD. Mae un yn Saesneg – There ain’t no Warhol in Oriel Môn (R-BEN 086) a’r llall yn Gymraeg – Barddoniaeth Bloglyd (R-BEN 088) a’r ddau yn gasgliad o straeon/sylwadau/rants wedi ei lleisio dros loops amrywiol. Mae yna eitemau reit ddifyr yma yn wir – y cynta dwi am roi fyny yw’r trac fer ‘Bloglyd’ sy’n gofyn y cwestiwn ‘Sgen ti flog?’

Mae gweddill y traciau yn gymysgedd o atgofion neu sylwadau ffraeth ar Gymru heddiw (yn cynnwys canllaw ar sut i fw-io Rhys Mwyn). Bw yn yr ystyr ‘boo’ seisnig hynny yw – slepjan geiriol.

Wnai orffen gyda dau drac difyr – un Saesneg yn dilyn ‘diwrnod mewn bywyd’ Johnny R (faint o wirionedd sydd yn hwn tybed?) a’r llall yn hel atgofion am yr ysgol.

Hefin Sgrech [1.90MB]
Bloglyd [642KB]
Day In The Life Of Me [4.34MB]
Atgofion Ysgol Rhan 1: Iawn Meds? [2.86MB]

  • Cyhoeddwyd: Medi 25, 2005
  • Categori: Lluniau
  • Sylwadau: Comments Off

Parc y Gamlas

Gyda’r pwyslais ar -as. Roedd hyn yn bownd o ddigwydd rhywbryd.

Arwydd Parc y Gamlas

Hei Mr DJ

Mae’n amlwg fod rhai darllenwyr yn ysu am ychydig o hen ysgol SRG unwaith eto, felly dyma ni chwe cân oddi ar gaset amlgyfrannog Hei Mr DJ, a gyhoeddwyd ar Label 1 yn 1990 (CS007). Mae yna ganeuon gan yr Alarm, y Cyrff, Ffa Coffi Pawb, Llwybr Llaethog Geraint Jarman, Meic Stevens ar hwn ond dwi ddim wedi cynnwys rhain gan fod y caneuon ar gael ar gasgliadau neu albymau eraill gan yr artistiaid hynny.

Tynal Tywyll – Dinosaur [3.1MB]
Jecsyn Ffeif – Byw Mewn Gwlad [4.9MB]
Crumblowers – Syth [4.4MB]
Hefin Huws – Animal Farm [3.7MB]
Huw ‘Bobs’ Pritchard – Disgynnodd y Diafol i’w Cheg [5.8MB]
Ust – Breuddwyd [4.9MB]

  • Cyhoeddwyd: Medi 15, 2005
  • Categori: Blogiau, Y We
  • Sylwadau: 1

Chwiliad Blog

Mae Google wedi lansio ei chwiliad blog – er fod canlyniadau wedi eu cynnwys fel rhan o chwiliad arferol Google ers peth amser. Oes, mae cyfieithiad Cymraeg o hwn ar gael ond mae’n edrych fel nad yw Google wedi troi’r ieithoedd arall ymlaen eto.

Be sy’n werth nodi yw pa mor gyflym mae Google yn diweddaru eu canlyniadau o flogiau i gymharu a tudalennau gwe arferol. Er, dwi ddim yn gwybod os oes yna unrhywbeth unigryw na gwahanol i’w gynnig gan Google yma, gan fod gwasanaethau fel Technorati wedi cynnig chwiliadau tebyg ers peth amser.

© 2009 Dafydd Tomos. Cedwir Pob Hawl.

Pwerir gan Wordpress a thema Magatheme gan Bryan Helmig.

Switch to our mobile site