Archif ar gyfer August, 2005

Geirfa/Vocab

Wednesday, August 31, 2005 20:19

Mae Bwrdd yr Iaith wedi ychwanegu teclyn Vocab BBC Cymru i’w gwefan heddiw. (yr un cynta yn allanol i wneud hynny?)
Mae angen ystyried ymhellach sut y mae hyn yn cael ei gynnwys o fewn gwefan yn y ffordd mwya effeithiol, yn enwedig lleoliad y panel mewn gwefannau sydd wedi eu dylunio’n barod. Oherwydd y [...]

Rhegi

Wednesday, August 31, 2005 19:41

Tra’n syrffio Technorati, des i ar draws cofnod gan girl_virgo yn adrodd hanes ei ymchwil i’r enw Dinbych-y-Pysgod a’i darganfyddiad o wefan Insultmonger.
Dwi ddim wedi cysylltu i’r wefan am fod e’n trio gosod pob math o gachu ar eich cyfrifiadur ond nifer o’r cofnodion Cymraeg wedi ei sgyfieithu e.e. “Sugno fy nhi’n i cachwr” - [...]

Taith i Pluto

Monday, August 29, 2005 22:52

Flwyddyn nesa, fe fydd NASA yn danfon chwiledydd ‘New Horizons‘ i blaned Pluto (dwi ddim yn hoff iawn o’r bathiad Cymraeg - Plwton, sy’n swnio fel gronyn bach fel electron neu broton). Dyma fydd y siawns cynta erioed i gael golwg iawn ar y blaned bell.
Mi fydd NASA yn cynnwys rhestr o enwau ar y [...]

Rhestr y Rhithfro

Saturday, August 27, 2005 16:26

Mae Aled o gwmni dylunio Smotyn wedi bod yn brysur yn creu gwefan ar gyfer rhestru gwefannau yn y Rhithfro. Wnaeth e ddim gweithio pan wnes i drio cofrestru yn gynharach ond mae’n edrych yn addawol iawn mor belled.

Cymraeg ar Radio 1

Tuesday, August 23, 2005 14:57

Yn ôl cyfaill di-Gymraeg mae yna rhaglen Gymraeg ar Radio 1 heno. Ac ar ôl tsecio, oes yn wir mae ‘na, am 3am rhag dychryn gormod o bobl. Rhaglen Oneclick yw hi.
…militant rapper MC Slaver…
[ Gol. Mae hwn yn rhan o raglenni cywaith Voices, a mae yna fwy o bethau diddorol ymlaen yn ystod [...]