Archifau Misol: Awst 2005
Dyfnaint
Ges i benwythnos bach braf yn Nyfnaint mewn ty ar ochr aber yr afon Exe. Mae gen i set o luniau ar Flickr.
Plyms Danjerus
Doedd gen i ddim llawer o ddiddordeb mewn cerddoriaeth yng nghyfrwng fy mamiaith cyn tua 1990 (am nad oeddwn i’n ffan mawr o roc, ar y pryd). Ond pan glywes i Eirin Peryglus.. waw synthpop Cymrâg! Dyma ddau gân gan … Continue reading
Trenau Arafa Cymru
Yn ôl eitem newyddion fach fan hyn mae ‘dogfennau gafodd eu rhyddhau gan Lywodraeth y Cynulliad’ (lle? mae’n amhosib darganfod unrhywbeth ar gwefan grap y Cynulliad) yn dweud y byddai Trenau Arriva yn colli £70,000 (yn flynyddol, dwi’n tybio) os … Continue reading
Môn-Heli
Dwi ‘rioed di clywed am y grŵp Môn-Heli (dwi ddim yn gwrando ddigon ar Radio Cymru yn ystod y dydd mae’n rhaid), ond mae’n nhw’n edrych fel un o’r pethau rhyfedd hynny mae Cymru yn dal i gynhyrchu – parau … Continue reading
ffatri born
Newydd ddarllen stori am ddyn yn cynhyrchu fideos porn mewn ty ym Mae Caerdydd. Wel wel, mae hyn tua canllath o’r swyddfa.. pwy fase’n meddwl? Dwi ddim cweit yn adnabod y disgrifiad “quiet, affluent area” chwaith.