Mae John Ogwen yn cael dipyn o sylw dyddiau ‘ma ond rhaid peidio anghofio ei wraig hyfryd, Maureen Rhys. Dyma gyfweliad â hi ar Wedi 7 ym mis Rhagfyr 2006.
Ar y gwifrau a’r tonnau
Mae’r Cymry yn enwog am gerddoriaeth a chanu. Efallai fod hi’n addas felly mai Cymro ddyfeisiodd y meicroffôn modern sy’n galluogi ni i drosglwyddo a recordio sain. Dyma un o gampau y gwyddonodd David Edward Hughes (cysylltiad i’r erthygl saesneg ar Wikipedia am fod fwy o fanylion yno) sydd o dras Cymreig er nid yw’n hollol glir lle’i ganwyd.
Fe wnaeth David Hughes lawer o waith arloesol ym myd cyfathrebu drwy wifrau gyda’r telegraff ac arbrofion gyda radio. Yn anffodus doedd ganddo ddim y gallu mathemategol i gofnodi a chyflwyno ei waith felly ni gafodd ei glod haeddiannol am flynyddoedd lawer wedi hynny.
Ychydig iawn o wybodaeth sydd ar gael am y gwyddonydd Cymreig pwysig yma, felly dwi’n falch o weld fod llyfr newydd wedi ei gyhoeddi yn ddiweddar – Before We Went Wireless. Rwy am holi os ydi’r cyhoeddwyr yn America yn fodlon danfon copi i Gymru. Mae’r llyfr ar gael o rhai dosbarthwyr yn Lloegr ond am bris eitha uchel – dros £60.
Mae gan awdur y llyfr gysylltiadau â Chymru hefyd. Mae’n werth gwylio y fideo yma lle mae’r awdur, Ivor Hughes, yn esbonio ychydig am yr ymchwil hirfaith wnaeth e ar gyfer y llyfr.
Hen hysbyseb
Dyma hen hysbyseb o bapur newydd. Oes rhywun eisiau dyfalu o le ddaeth hwn? Mi wnai ddatgelu fory rhywbryd a mae cysylltiad rhwng hwn a’r cofnod cynt ynglŷn a phapurau newydd.
Mae’r hysbyseb yn fy atgoffa fi o hwn (John Bwts a’i acen cocni gorau).
https://youtube.com/watch?v=ry4CrNMa-Yg%3Frel%3D0%26start%3D67
Cofio… 1995
Dwi wedi bod yn sganio hen doriadau papur newydd o gyfnod cynnar iawn y Rhyngrwyd. Mae’r storiau eu hunain yn ddigon diddorol ond mae’n ddifyr gweld sut roedd papurau newydd yn adrodd ar y cyfrwng newydd. Yn wahanol i’r disgwyl mae’r Cymro yn well na’r gweddill oherwydd dealltwriaeth eu gohebydd Dilwyn Roberts-Young (er does gen i ddim enghreifftiau o’r Cymro yn 1995).
Mae’n bosib fyddai’n darganfod mwy i’w sganio cyn bo hir ond fel cofnod, dyma’r set o luniau ar Flickr.