Byd Bobs

Nôl yn yr 80au hwyr roedd Huw ‘Bobs’ Pritchard yn ganwr unigryw o dan yr enw Byd Afiach. Fe fyddai’n bosib ei ddisgrifio fel “un dyn a gitâr” ond gyda’r traciau ryddhawyd ar dâp mae yna gymysgedd o arddulliau o ganeuon acwstig syml i bop arbrofol.

Yn nechrau’r 90au fe roedd Bobs yn un o gyflwynwyr Hwyrach ar Radio Cymru gyda’i sioe Wplabobihocdw, a roedd ganddo sioe ‘Y Bocs’ ar S4C hefyd. Fe ‘laddwyd’ y Bobs (a Hwyrach yn gyfangwbl) gan nad oedd ei ffraethineb yn ddigon addas i agenda fasnachol newydd Radio Cymru.

Wrth dwrio drwy hen dapiau wnes i ddarganfod recordiad o sioe olaf y Bobs, yn 1992 dwi’n credu. Ar y pryd wnes i ddim sylweddoli pwysigrwydd yr achlysur a felly dim ond yr awr olaf gafodd ei recordio, a wnes i dorri allan rhai o’r caneuon. Ond mae’n werth gwrando arno beth bynnag. Mae’r recordiad yn agor gyda Tomos, mab Huw yn canu cân i ni. Mwynhewch!

      Sioe olaf y Bobs
[15MB]

Postiwyd yn Cerddoriaeth, MP3, Radio | 2 Sylw

Swyddi Sony

Daeth newyddion digalon heddiw am swyddi yn mynd yn ffatri Sony ym Mhen-y-bont a Pen-coed. Mae’n anffodus fod y math yma o weithgynhyrchu yn un anodd i’w drosglwyddo’n araf i dechnoleg newydd – rhaid dechrau eto gyda offer newydd a sgiliau newydd i’w dysgu.

Ta beth, clip sain bach addas ar gyfer y newyddion yma oddi ar fflecsi disc “Dyddiadur Johnny R” (R-BEN 06, 1991). Dyw’r trac cyfan ddim gen i yn anffodus ond dyma flas.


      Sony Sandra

[3.4MB]

Postiwyd yn Cerddoriaeth, MP3, Newyddion | Sylwadau wedi eu Diffodd ar Swyddi Sony

Rhaid dechrau rhywle

Croeso i daflog – dyna’r enw gwirion dwi wedi ddewis. Wneith y tro, am nawr. Dwi ddim yn un am ddilyn ffasiwn ond fe stopiodd blogio fod yn ffasiynol blwyddyn diwethaf (mae fy nhad wedi clywed amdano) felly dwi am ddechrau un nawr.

Fe fyddai’n defnyddio y blog i gofnodi unrhywbeth diddorol fyddai’n dod ar draws ac unrhyw brosiectau (rhai gwaith a phersonol) fyddai’n gweithio arno. Bwriad penodol arall yw cyflwyno cerddoriaeth Cymraeg o’r gorffennol yn enwedig o’r 80au a 90au cynnar (“fy nghyfnod i”) a ychydig o syrpreisys falle.

Dwi’n gobeithio gallu postio yn reit cyson, ond dwi’n addo dim, reit? 🙂

Postiwyd yn Cyffredinol | 2 Sylw