Gwefan gwastraff

Mae yna hysbysebion teledu yn cael eu dangos ar hyn o bryd yn hyrwyddo ail-gylchu felly es i draw i’r wefan i weld beth sydd yno. Wnai ddim cwyno am y dylunio di-ddychymyg ac anghyson, nac am y gwallau bach sydd dal yn y wefan fel teitlau’r dolenni Cymraeg yn dangos “Link to…” na’r ffaith eu bod wedi rhoi ‘Nodwch eich côd post…’ ddwywaith yn Gymraeg fel camgymeriad. Wnai ddim hyd yn oed gwyno am y ffaith nad yw’r cynllun yn gweithio’n iawn yn unrhywbeth heblaw Internet Explorer.

Beth wnaeth sefyll mas i fi oedd y gair ‘Mordwyaeth’ am navigation. Pwy ddic clyfar feddyliodd am hwn? Yn anffodus mae wedi ei gynnwys mewn canllaw cyfieithu rhywle am fod nifer o wefannau Cynulliad-ol yn ei ddefnyddio. Mae hyn braidd yn wirion yn enwedig gan fod termiadur y Cynulliad ei hunan yn cynnig ‘llywio’. Ond, yn wir, falle nid yw’r gair yma gymaint o bla a’r gair safwe (sydd eto, dwi’n amau mewn rhyw dermiadur cyfieithu ‘swyddogol’).

Postiwyd yn Cymraeg, Y We | Sylwadau wedi eu Diffodd ar Gwefan gwastraff

Cymraeg y BBC

Mae safon newyddiadurol BBC Cymru’r Byd yn dipyn o jôc ers rhai blynyddoedd a mae safon ei Cymraeg yn hynod o anwastad hefyd. Falle sdim lle ‘da fi i gwyno am safon yr iaith ond sneb yn talu fi i sgrifennu yn Gymraeg nag oes?

Enghraifft dda mewn stori bore ‘ma. Mae nhw’n sôn am ‘system imiwneiddio wan’. Beth? Nes ymlaen mae nhw’n newid eu meddwl a dweud ‘system heintrydd’ (iawn, dyfynnu rhywun mae nhw). Dwi’n credu fod yr ail derm yma yn gywir er fod ‘imiwnedd’ yn llawer fwy poblogaidd a dealladwy.

A wedyn mae nhw’n mynd ymlaen i ddyfynnu’r un person sy’n dweud ‘systemau imiwneiddio wan’. Wos goin’ on?

Postiwyd yn Newyddion | 7 Sylw

Agor blwch Pandora

Mae yna un neu ddau gwefan wedi’i creu yn y gorffennol i ddangos cysylltiadau cerddorol rhwng bandiau ac argymhellion wedi seilio ar hynny, ond mae Pandora yn gwneud hyn mewn ffordd slic iawn.

Daw’r gerddoriaeth o’r prif labeli rhan fwyaf felly wnes i ddim dod o hyd i unrhywbeth Cymraeg, heblaw am stwff saesneg gan y Gorky’s er enghraifft. Mi fase’n dda petai rhywun yn gallu darganfod cerddoriaeth Cymraeg drwy wasanaeth fel hyn – mi fyddai’n bosib i labeli ddanfon eu cynnyrch i fewn.

Gol: Newydd ddarganfod fod y broses tanysgrifio yn gofyn am eich zip code er mwyn cadarnhau eich bod yn yr UDA. Mae’n hawdd osgoi hyn drwy chwilio am zip code dilys (mae yna un weddol enwog oedd mewn cyfres deledu 🙂

Postiwyd yn Cerddoriaeth, Technoleg | 1 Sylw

Pennod newydd

Mae gwefan Chapter wedi cael ei ail-lansio. Roedd yr hen un yn wael ond mae hwn waeth rhywsut – mae’n rhaid cael sgrîn anferth a llygaid 20:20 i’w ddarllen yn gyffyrddus. Mae’r testun i gyd yn ‘ddwyieithog’ hefyd sy’n hynod o ddryslyd ac anniben – a mae’n osgoi cyfieithu rhan helaeth o’r cynnwys hefyd.

Gwefan gwych arall gan Sickuence ‘te..

Postiwyd yn Y We | Sylwadau wedi eu Diffodd ar Pennod newydd

Chris a chwrw

Cafwyd post clywedol arall gan Chris felly chi’n gwybod beth sy’n dilyn… Fe fyddai’n diflasu gyda gwneud hyn cyn bo hir, wir nawr.

Mae y sampl cefndir (beats) yn dod o wefan ccMixter o dan drwydded Creative Commons felly mae’r trac yma yn cael ei ryddhau o dan CC hefyd.

      Cymal 3 - CC3
[3.50MB]

Postiwyd yn Cerddoriaeth, MP3 | Sylwadau wedi eu Diffodd ar Chris a chwrw