Diwedd R-bennig?

Yn ôl eu gwefan, mae Recordiau R-bennig o Fôn wedi dod i ben ar ôl 15 mlynedd o ryddhau recordiau gwahanol ac unigryw. Fe ddes i ar draws y label gynta tua 1990 neu 1991 pan glywes i record A5Gadael/Colli Mynadd‘ yn cael ei chwarae ar sioe Nia Melville ar Radio Cymru. Ac o hynny ymlaen fe ddes i yn ffan pennaf o’r label a wnes i ymgais (aflwyddiannus) i gasglu unrhywbeth yr oedden nhw’n cyhoeddi.

Profiad rhyfedd oedd cysylltu gyda Johnny R, perchennog y label, yn y dyddiau cynnar. Fe wnes i ddanfon arian yn gofyn am gopi o rhyw record (7″ Amser y Mis efallai) ynghyd a llythyr gwirion (fel bachgen ychydig yn ‘wahanol’ yn fy arddegau gyda lot o bethau rhyfedd yn mynd ymlaen yn fy meddwl). Ychydig ddiwrnodau yn ddiweddarach fe ges i’r pres yn ôl, dim record ond llythyr yn cynnwys rant hir – roedd Johnny yn fy nghyhuddo o fod yn ‘sbei’ o gwmni Cytgord. (Paranoia Cefn Gwlad)

A Sbei fues i o hynny ymlaen wrth i mi lythyru gyda’r dyn hynod yma o Walchmai a danfon fy ymgeision pitw i gynhyrchu cerddoriaeth arbrofol efo dim byd mwy na samplyr 8-bit a chwaraewr casét.

Mwy o atgofion nes ymlaen efallai – dim ond gobeithio y byddwn ni’n clywed eto gan Mr. R (a nid jyst ar y blog yma!) yn y dyfodol.

Postiwyd yn Cerddoriaeth, Y We | 4 Sylw

Band eang i bawb

Erbyn diwedd Medi 2006 fe ddylai fod pob cyfnewidfa deleffôn yng Nghymru yn gallu darparu gwasanaeth band eang. Mae’r Cynulliad yn ariannu y gwaith er mwyn cysylltu y cyfnewidfeydd anghysbell hynny i rwydwaith canolog BT. [mwy o wybodaeth]

Postiwyd yn Newyddion, Technoleg | Sylwadau wedi eu Diffodd ar Band eang i bawb

Google Mawrth

Mae Google wedi defnyddio ei technoleg mapiau ar gyfer y blaned Mawrth – fe lansiwyd ddoe i goffau am y seryddwr Percival Lowell. Gwych.

Postiwyd yn Y Gofod, Y We | Sylwadau wedi eu Diffodd ar Google Mawrth

Ail-lansiad Plaid Cymru

Wel mae digon o sôn wedi bod am ail-frandio Plaid Cymru ar faes-e a llefydd arall. Beth sy’n drist yw gweld y smonach mae nhw wedi gwneud ohoni. Dyw’r logo newydd ddim mor ddrwg a hynny, os oedd Plaid Cymru yn gwmni masnachol. Ydi e’n addas i blaid wleidyddol? Dwi’n amau.

Mi roedd gwefan y Blaid yn destun jôc o’r blaen a does dim byd wedi newid er y cot newydd o baent- dy’n nhw ddim hyd yn oed yn gallu penderfynu pa ffont a lliw i ddefnyddio ar gyfer yr enw ‘Plaid’ yn eu logo. Mae cymru x ymhell ar y blaen o ran cyflwyniad a delwedd.

Ta beth, y ‘logo sain’ wnaeth fy nifyrru i fwya. Fe ges i’r syniad neithiwr o ail-gymysgu’r sampl sain ac ychydig oriau yn ddiweddarach des i lan a ‘Paid Cymru’. Mi fydd mics hirach o hwn yn cael ei wneud yn y man.

      Paid Cymru (Mics Dai a Rea)
[2.07MB]

Postiwyd yn MP3, Newyddion | 2 Sylw

Blog Chewy

Mae’r wookie enwog wedi dechrau blogio. Hollol wallgo, ond doniol rhywsut.

Postiwyd yn Blogiau, Hwyl | 1 Sylw