Cwpan y Byd

Mae’n debyg fod rywbeth o’r enw Cwpan y Byd yn cael ei gynnal ar hyn o bryd. Does gen i ddim diddordeb mewn hynny heblaw i nodi hyn – os ydych chi’n chwilio Google am enw dau wlad sy’n cystadlu mae Google yn dangos y canlyniadau, ac yn Gymraeg hefyd. Cefn y rhwyd!

Postiwyd yn Cymraeg, Y We | 2 Sylw

Syrffio’r internet, 1995 stylee

Ganwyd y We Gymraeg yn 1995. Cyn hynny roedd nifer o Gymry Cymraeg yn cyfathrebu ar rhestrau ebost fel welsh-l, ar grŵp Usenet soc.culture.welsh (a nes ymlaen wales.cymraeg) a’r sianeli sgwrsio byw IRC. Y lle rhwydda i gael mynediad i’r rhyngrwyd oedd yn y prifysgolion neu’r prif lyfrgelloedd a felly cymuned academaidd wnaeth ddatblygu a chynnal rhan fwyaf o’r gwasanethau a’r wybodaeth yn y cychwyn. Continue reading

Postiwyd yn Fideo, Teledu, Y We | 2 Sylw

Traffig Cymru

Edryches i ar wefan Traffig Cymru heddiw sydd wedi cael ei ail-wneud yn weddol ddiweddar dwi’n credu. Am smonach. Dwi’n gallu deall fod peth o’r cynnwys Cymraeg ddim yna eto, nid fod hynna’n esgus. Ond pwy ddiawl sy’ wedi cyfieithu hwn, ac yn bwysicach, wedi caniatáu iddo fynd yn fyw? Oes pwynt i’r Cynulliad gael rhestr swyddogol o dermau os nad yw gwefannau eu asiantaethau yn ei ddefnyddio? A sut ddiawl mae rhywun yn llwyddo rhoi ‘Llwodraeth Cynulliad Cymru’ o fewn logo pan fo’r graffeg hynny yn un safonol sy’n cael eu ddefnyddio ymhobman?

Digon o gwestiynau dwl, cliciwch ar y llun i weld y camgymeriadau – coch am camsillafu/camdeipio a melyn am gyfieithiadau amheus.

Traffig Cymru

Postiwyd yn Scymraeg, Y We | 1 Sylw

Pot Nwdls

Weithiau mae’r Cymry yn cael eu portreadu fel twpsod di-hiwmor sy’n methu cymryd jôc. Weithiau dwi’n cytuno fod hyn yn wir, o weld heddiw fod 37 o gwynion wedi’u derbyn am hysbyseb dychanol Pot Noodle – gan bobl nad oedd yn digon deallus i sylwi fod yr hysbyseb yn hwneud hwyl am ben ystrydebau o Gymru.

Postiwyd yn Newyddion, Teledu | 1 Sylw

Heddlu’n saethu?

Mwy o benawdau amwys gan newyddion y BBC – “Mwy o heddlu wedi saethu“. Pan weles i hwnna yn y darllenydd RSS feddylies i “wedi saethu beth?”, wedyn o’n i’n meddwl mai “wedi’u” oedd e fod a mai sôn am rhyw gyflafan o heddweision wedi’u saethu rhywle.

A pan es i i’r stori lawn i weld be ddiawl o nhw’n feddwl ges i ffenest bach yn dod fyny a dweud “Helpwch ni i gadw ein bys ar y pyls.”. Pa byls? Oes rhywun yn anymwybodol? Fydd rhaid i fi wneud CPR? Dwi’n drysu..

Postiwyd yn Newyddion | 1 Sylw