Telyn y gwir

Diolch i Mei am roi fideo lan o berfformiad hynod Wilma Harries yn y Steddfod. Roedd hi yn un o ddau wnaeth roi cynnig ar Cystadleuaeth Goffa John Weston Thomas – unawd agored ar y delyn deires. Mae hi’n chwarae dau ddarn traddodiadol – ‘Dafydd y Garreg Wen’ a ‘Cartref’ – mewn arddull ‘cerdd dannedd gosod’. Dim ond dau oedd yn y ras ond daeth neb yn gynta. Roedd Wilma yn drydydd.

Postiwyd y cofnod hwn yn Eisteddfod2006, Fideo. Llyfrnodwch y paraddolen.