Dyna un o’r pethe fase HAL wedi ddweud petai 2001: A Space Odyssey yn ffilm Gymraeg. Er ein bod ni yn 2006, dyw cyfrifiaduron dal ddim yn gallu rhesymu, heb son am siarad yr un fath a HAL. Gwneud i gyfrifiadur siarad yw un o’r technolegau anoddaf i’w ddatblygu ac er yr addewidion dros y blynyddoedd, does dal dim meddalwedd sy’n galluogi cyfrifiadur i leisio unrhyw destun yn berffaith mewn unrhyw iaith.
Mae datblygu system o’r fath ar gyfer Cymraeg heb lawer o adnoddau wedi bod yn waith hir, diflino. Dwi’n cofio Dr Briony Williams yn cyflwyno syntheseinydd llais Cymraeg yn 1995, a roedd hynny yn sgîl blynyddoedd o waith ymchwil.
Erbyn hyn mae’r Uned Technoleg Llais yng Nghanolfan Bedwyr wedi cyflwyno pecyn testun-i-lais ar gyfer Cymraeg. Mae fersiwn 1.0 ar gael yma i fod ond dyw’r ffeil zip ddim yn gweithio ar hyn o bryd. Mae fersiwn 0.5 ar gael hefyd ond mae yna wallau ynddo a mae’n defnyddio hen samplau llais. Fel enghraifft o’r llais, dyma gloc sy’n siarad Cymraeg.