Fe wnaeth yr erthygl yma ddal fy sylw. Yn anffodus mae’r erthyglau yma yn cael ei cyflenwi i’r wefan gan Adfero, sydd yn eu tro yn golygu a chymysgu storïau o nifer o ffynonellau. Felly mae’n anodd dod o hyd i ffynhonnell wreiddiol y dyfyniadau. Dyma y brif ffynhonnell, stori ym mhapur newydd Prifysgol Abertawe.
Ta beth, mae’r eitem yn crybwyll fod 80,000 o bobl yng Nghymru sy’n ddall neu rhannol ddall a felly fod hi’n bwysig meddwl am adeiladu gwefannau sy’n hygyrch i’r dall. 80 mil, mae hynny’n lot ondywe! Wel, dim ond 2% o boblogaeth Cymru. Dychmygwch petai rhywun yn gwneud datganiad fel:
[Wales] has some 500,000 fluent or semi-fluent Welsh speakers, so designing websites with Welsh-language content is “well worth doing” for companies in the country.
Y gwahaniaeth rhwng y dall a’r siaradwyr Cymraeg wrth gwrs fod ni’n gallu ‘dewis’ siarad Saesneg a dyna’r esgus arferol yn absenoldeb deddfau i sicrhau cydraddoldeb. Dwi wedi clywed pobl yn cwyno am y ‘gost’ o ddarparu deunydd dwyieithog ond ddim yn cwyno am y gost (llawer uwch yn aml iawn) o sicrhau hygyrchedd i’r anabl a cyfleoedd cyfartal ymhob agwedd o redeg busnes.
Mae creu gwefannau hygyrch yn bwysig yn sicr ac yn fwy na hynny yn weddol rhwydd i wneud, drwy ddilyn safonau; mae unrhyw gostau yn rhan o’r gwaith dylunio/adeiladu a felly ddim mor amlwg i’r cwmni sydd wedi comisiynu’r wefan. Y cwmni sy’n darparu’r cynnwys a felly mae costau cyfieithu yn fwy amlwg iddyn nhw. Mae gwefan fasnachol yn cael ei ystyried yn fuddsoddiad er mwyn ennill cwsmeriaid a mewn cynllun busnes synhwyrol mi ddylai fod gwefan ddwyieithog yn gam arall i gynyddu yr ROI hollbwysig.
Beth dwi’n drio ddweud felly? Wnai ddim enwi nhw ond yn rhinwedd fy swydd dwi wedi dod ar draws nifer o bobl marchnata sy’n ail-adrodd y ddadl o ‘gost’ yn ddi-gwestiwn, nifer ohonyn nhw’n Gymry Cymraeg yn anffodus. Cyn i ni allu perswadio cwmniau rhyngwladol i gymryd yr Iaith o ddifri efallai ddylen ni ddechrau’r gwaith yn agosach adre.