Mynd ar Safari

Mae Apple wedi cyhoeddi fod porwr gwe Safari nawr ar gael i systemau Windows. Wnes i rhoi cynnig arno neithiwr ar beiriant Windows weddol newydd, pwerus. Dwi ddim yn gwybod lle mae Apple wedi cael ei ffigyrau o, ond roedd Safari yn hynod o araf yn fy mhrofiad i. Roedd e fel petai’n llwytho popeth ar y dudalen cyn ei ddangos, oedd yn cymryd 5-10 eiliad.

Yn sicr roedd e llawer arafach na Firefox neu Internet Explorer ar yr un peiriant. Er fod IE ychydig cyflymach ar y cyfrifiadur, mae’n well gen i ddefnyddio Firefox sydd yn ddigon cyflym ac yn llawn nodweddion defnyddiol. O ran nodweddion, wnes i ddim gweld dim byd hynod o ddefnyddiol yn Safari i gymharu a Firefox.

Dwi’n dueddol o agor llawer o dabiau ar yr un pryd, sy’n bwyta cof. Dyma lle mae Firefox yn well yn fy mhrofiad i, mae gen i 28 tab ar agor sy’n defnyddio 158MB o gof = 5.6MB yr un. Mae IE ar agor gyda 4 tab ac yn defnyddio 34MB = 8.5MB yr un. Dwi newydd agor 8 gwefan ar hap yn Safari a mae’n defnyddio 90MB = 11.25MB yr un. Dwi ddim wedi tiwnio dim byd chwaith. Mae IE yn waeth hefyd am nad yw’n gollwng y cof wrth gau lawr un tab, felly mae’n dueddol o dyfu yn fwy na sydd angen.

O ran fy mhrofiad i (ac ar fy nghyfrifiaduron penodol i) felly does dim byd arbennig i’w weld yma, ond mi fydd yn ddefnyddioll iawn cael copi o Safari ar y peiriant er mwyn profi gwefannau.

Postiwyd yn Technoleg, Y We | 4 Sylw

Talu teyrnged

Mae’n hawdd ennill clod am newid y byd, os ydych chi’n wleidydd, ond mae’r llawer o’r gwaith pwysicaf yn cael eu wneud gan weision sifil yn gweithredu polisïau y gwleidyddion. Er hyn, ychydig o’r gweision hyn sy’n ddigon hyderus a galluog i herio’r sefydliad mewn ffordd dawel.

Fues i yn angladd fy wncl Handel ddydd Llun. Roedd nifer o’i hen gyd-weithwyr yno a roeddent yn cytuno y dylid cyhoeddi erthygl goffa amdano, rhywbeth pwysicach na phwt o hysbysiad yn y Western Mail. Diolch i dad a chymorth Meic Stephens felly, dyma ei obit yn yr Independent.

Postiwyd yn Bywyd | Sylwadau wedi eu Diffodd ar Talu teyrnged

Y tric mewn busnes yw…

Ydych chi erioed wedi meddwl am be mae’r pobl busnes na’n gwneud yn eu ciniawau (neu brecwastau) ‘rhwydweithio’?

Mae aelodau clwb ‘Working Lunch Wales’ wedi bod yn dysgu gwneud ychydig o hud a lledrith. Wele un o’r triciau sy’n cael ei berfformio gan ddau dyn busnes – tra bod un yn eistedd yn yr awyr gyda dim ond un goes ar y llawr, mae’r llall yn balansio ar ei gefn! Mae llun y pâr dawnus ar y dudalen yma (sgroliwch i lawr).

Postiwyd yn Hwyl, Y We | Sylwadau wedi eu Diffodd ar Y tric mewn busnes yw…

Chris a Sian

Mae pawb yn caru Chris…

Postiwyd yn Fideo, Hwyl | 3 Sylw

Trwy’r coed

Dyma un darn o’r olygfa sy’ gen i o’r swyddfa newydd. Mae hyn yn gwneud gwahaniaeth mawr o edrych allan ar wal frics. Ydych chi’n gwybod be sy’n cuddio tu ôl y coed? (cliciwch am lun mwy)

Trwy'r Coed

Postiwyd yn Gwaith, Lluniau | 2 Sylw