Cyfieithiad cam

Mae fy rhieni wedi gwneud cais am y taliadau tanwydd gaeaf sydd ar gael i bobl dros 60. Fe ddanfonwyd y cais yn Gymraeg, a felly daeth llythyr Cymraeg yn ôl. Wel, falle fod Scymraeg yn ddisgrifiad gwell.

Mae’n anodd deall hwn dweud y gwir, am fod y geiriad yn eitha rhesymol, ond fod yna gamsillafiadau rhyfedd. Yr ymadrodd gorau yn y llythyr yw “Eich eiddo yn gywir” (your property is correct?) Dwi wedi nodi y gwallau amlwg isod (cliciwch am lun mwy). Oes rhagor?

Llythyr yn llawn gwallau

Postiwyd yn Scymraeg | Sylwadau wedi eu Diffodd ar Cyfieithiad cam

Arfbais afiach

O dan y ddeddf Rhyddid Gwybodaeth mae’n bosib gofyn am ddogfennau gael ei ryddhau gan yr Archifau Genedlaethol. Dyma ddarn bach diddorol o gofnodion cabinet (Ceidwadol) ym mis Chwefror 1953 o dan Churchill.

Mae’r cofnod yn trafod cynnig i ychwanegu at arfbais swyddogol Cymru, oedd wedi ei ddefnyddio ers 150 mlynedd. Mae barn Churchill (nid ffrind gorau Cymru) yn amlwg – “Odious design expressing nothing but spite, malice, ill-will and monstrosity.”. Cofnodir sylw gan Ll.G. (ie Lloyd George yw hwn, ond Gwilym Lloyd George, mab y cyn brif-weinidog, oedd wedi gadael y blaid Ryddfrydol a symud tuag at y blaid Geidwadol), lle mae’n nodi, yn deg – “We get no recognition in Union – badge or flags“.

Arfbais y Ddraig Goch

Dyw’r cofnodion ddim yn hynod o fanwl ond fis yn ddiweddarach, fe gyhoeddodd y Frenhines y byddai’r geiriau “Y Ddraig Goch Ddyry Cychwyn” yn cael ei ychwanegu i’r arfbais. Er mai baner y Ddraig Goch a ddefnyddiwyd ers 1959 fe barhaodd yr arfbais fel symbol swyddogol y Swyddfa Gymreig o 1964 hyd at sefydlu’r Cynulliad yn 1997.

Postiwyd yn Gwleidyddiaeth, Hanes, Y We | 2 Sylw

Gwyddoniadur Cymru

Wyddoch chi mai Abertawe yw dinas wlypaf Prydain? (Oeddwn). Neu mai yng Nghymru y lladdwyd y blaidd olaf, yng Nghregina (Nag oeddwn, diolch am y ffaith hynod o ddiddorol hwn).

Mae hyn i gyd a llawer mwy yn y gyfrol Gwyddoniadur Cymru sy’n cael ei gyhoeddi mewn rhai misoedd. Nawr mae’n bosib archebu eich copi o flaen llaw ar wefan newydd.

Postiwyd yn Gwaith, Llyfrau, Y We | 1 Sylw

Teg edrych tua Maesteg?

Dyma un o’r lluniau mwy diflas dwi wedi gweld ar flaen gwefan (un yr Eisteddfod cyn i chi ofyn):

Croeso i Faesteg

Mae’n edrych fel fersiwn Cymru o Royston Vasey – “Croeso i Faesteg, wnewch chi fyth adael”.

Postiwyd yn Lluniau | 3 Sylw

Mynd ar Safari

Mae Apple wedi cyhoeddi fod porwr gwe Safari nawr ar gael i systemau Windows. Wnes i rhoi cynnig arno neithiwr ar beiriant Windows weddol newydd, pwerus. Dwi ddim yn gwybod lle mae Apple wedi cael ei ffigyrau o, ond roedd Safari yn hynod o araf yn fy mhrofiad i. Roedd e fel petai’n llwytho popeth ar y dudalen cyn ei ddangos, oedd yn cymryd 5-10 eiliad.

Yn sicr roedd e llawer arafach na Firefox neu Internet Explorer ar yr un peiriant. Er fod IE ychydig cyflymach ar y cyfrifiadur, mae’n well gen i ddefnyddio Firefox sydd yn ddigon cyflym ac yn llawn nodweddion defnyddiol. O ran nodweddion, wnes i ddim gweld dim byd hynod o ddefnyddiol yn Safari i gymharu a Firefox.

Dwi’n dueddol o agor llawer o dabiau ar yr un pryd, sy’n bwyta cof. Dyma lle mae Firefox yn well yn fy mhrofiad i, mae gen i 28 tab ar agor sy’n defnyddio 158MB o gof = 5.6MB yr un. Mae IE ar agor gyda 4 tab ac yn defnyddio 34MB = 8.5MB yr un. Dwi newydd agor 8 gwefan ar hap yn Safari a mae’n defnyddio 90MB = 11.25MB yr un. Dwi ddim wedi tiwnio dim byd chwaith. Mae IE yn waeth hefyd am nad yw’n gollwng y cof wrth gau lawr un tab, felly mae’n dueddol o dyfu yn fwy na sydd angen.

O ran fy mhrofiad i (ac ar fy nghyfrifiaduron penodol i) felly does dim byd arbennig i’w weld yma, ond mi fydd yn ddefnyddioll iawn cael copi o Safari ar y peiriant er mwyn profi gwefannau.

Postiwyd yn Technoleg, Y We | 4 Sylw