Ansawdd lluniau S4C yn dirywio

Wythnos ddiwethaf fe wnaeth sianel S4C Digidol symud lleoliad ar wasanaeth Freeview. Yr esboniad technegol yw fod y sianel wedi symud o amlblecs masnachol ‘Mux A’ i amlblecs ‘Mux 2’ sydd ar gyfer sianeli PSB. Mae’n rhaid cario Mux1/2 ar bob trosglwyddydd yn cynnwys y ‘relays’ llai, ond does dim rheidrwydd i wneud hynny ar gyfer yr amlblecs masnachol.

Mae’r newid i weld yn beth da felly, gan ei fod yn cynyddu cyrhaeddiad y sianel i wylwyr ym mannau anghysbell Cymru. Yn anffodus mae S4C nawr yn rhannu lle gyda holl sianeli ITV a Channel 4, a mae’n ymddangos fod ganddo llai o ofod nag o’r blaen.

Canlyniad hyn yw fod ansawdd y llun wedi dirywio yn amlwg, gyda llun llawer mwy ‘meddal’ a mwy o ‘blocio’ gyda sgîl-effeithiau cywasgiad MPEG-2 yn digwydd yn aml.

Mae ansawdd yr unig sianel Gymraeg nawr yn ddim gwell na rhai o’r sianeli siopa neu sianeli “+1”. Felly dwi’n gweld S4C yn cael ei drin fel sianel israddol ar draul sianeli gweddol di-bwynt sydd ar yr un amlblecs fel Channel 4+1 neu ITV2/3/4.

Fe wnes i gwyno am hyn i Wifren Gwylwyr S4C a fe ges i ymateb prydlon gan aelod o adran beirianneg S4C. Mae ganddyn nhw bryderon hefyd ynglŷn a ansawdd y llun a fe fyddant yn “medru man-diwnio yr MPEG encoding dros y misoedd nesaf”. Mae’n wir ei fod yn bosib gwneud tipyn o welliannau drwy ddefnyddio caledwedd amgodi newydd a tiwnio y proffil ar cyfer cywasgu y lluniau i MPEG-2.

Yn anffodus, mae hyn yn esiampl o nodweddiadol o sut mae’r diwydiant darlledu yn datblygu yn sgîl technolegau digidol – mae pwysau ar bawb i wasgu fwy a fwy o sianeli i’r un gofod ar draul ansawdd. Er fod ‘Mux 2’ ar gyfer sianeli ‘darlledu cyhoeddus’, sianeli masnachol ydyn nhw gyd sydd yn dibynnu ar hysbysebion – pob un heblaw am S4C wrth gwrs. Mae lle i ddadlau y dylai S4C fod ar amlblecs y BBC ond mae’n siwr fod rhesymau technegol/gwleidyddol dros beidio gwneud hynny.

Mi fydd S4C HD yn lansio mis Mawrth nesaf ar Freeview (unwaith i Cymru gyfan newid i ddigidol) a mi fydd hynny yn cynnig llun o ansawdd uchel iawn unwaith eto. Dwi’n edrych ymlaen at hynny, ond wrth gwrs ni fydd S4C HD ar gael i bawb yng Nghymru ar Freeview a fe fydd angen prynu cyfarpar newydd (eto) i’w wylio.

Dwi’n gobeithio y bydd rhyw ffordd o wella lluniau S4C yn ôl i’r ansawdd gwreiddiol a wnai drio rhoi enghreifftiau ar y blog cyn bo hir i ddangos y newid.

Postiwyd yn Technoleg, Teledu | Sylwadau wedi eu Diffodd ar Ansawdd lluniau S4C yn dirywio

Costau cyfieithu

Mae yna rhywbeth yn drewi ynglyn a’r stori yma ynglŷn a chyfieithu gêm gyfrifiadurol. Dyw cyfieithu 30 mil o eiriau ddim yn mynd i gostio £16,500!

Mae’n debygol mai geiriau unigol fyddai llawer o’r cynnwys yn hytrach na brawddegau llawn a felly fe fyddai’n bosib cyfieithu y trwch o’r geiriau drwy eiriadur neu cof-gyfieithu. Hyd yn oed o ystyried y gwaith o wirio’r testun a’i roi yn y fformat cywir ar gyfer y gêm dyw’r gost ddim mwy na rhyw 2 neu 3 mil.

Mae rhywun yn trio cymryd mantais fan hyn – naill ai pwy bynnag sy wedi rhoi yr amcanbris, neu y cwmni gemau eisiau’r gwaith am ddim.

Postiwyd yn Cymraeg, Newyddion | 1 Sylw

Cwrw Am Ddim

Fe wnaeth Syr Alun – yr Arglwydd Siwgwr o Trumpton – rhoi her i mi, sef gwneud hysbyseb byr ar gyfer llyfr newydd Chris Cope – Cwrw Am Ddim. Fel arfer yn y tasgau ‘ma doedd dim digon o amser i wneud y job yn iawn ond dyma y mics cynta i chi fwynhau:

Postiwyd yn Fideo, Llyfrau | Sylwadau wedi eu Diffodd ar Cwrw Am Ddim

Diffyg Sylw

Dwi wedi cael gafael ar gopi o cylchgrawn Sylw o’r diwedd. Dwi ddim yn gwybod be i feddwl o gylchrawn sy’n disgrifio Angharad Mair fel ‘darlledwraig dalentog’ ac ar yr olwg gynta ‘yr un hen bobl’ sy’n ysgrifennu yn y cylchgrawn yn dweud ‘dim byd llawer’ sy’n newydd.

Ond y peth doniolaf i fi yw erthygl Rhys Llwyd ar Golwg 360. Mae’r erthygl yn beirniadu diwyg y wefan a mae yna sgrîn-lun o’r wefan ar y dde. Ond arhoswch funud, nid gwefan Golwg 360 yw e ond yn hytrach fy fersiwn newydd i o’r dyluniad wnes i roi fyny ym mis Mai! Nid dim ond cylchgrawn Golwg sydd ddim yn talu ‘sylw’ i’r manylion felly!

cylchgrawn Sylw

Postiwyd yn Cyfryngau | 5 Sylw

Golwg 360 beta fersiwn 2

Mae gwefan Golwg 360 yn ‘cael ei hail-ddylunio’, un tudalen ar y tro. Dyma’r neges ddoe:

Mae gwefan Golwg360 yn cael ei hail-ddylunio. Rydyn ni hefyd yn ffreshau Lle Pawb. Felly, bydd yr is-wefannau yn diflannu am ychydig ddyddiau’n awr ac yn dod yn ôl ddydd Gwener, Gorffennaf 3 – gyda’r tudalennau newyddion ar eu newydd wedd. Diolch i chi i gyd am eich cefnogaeth.

Prynhawn ‘ma fe aeth ychydig o newidiadau yn fyw. Mae’r dudalen groeso ddi-bwynt wedi mynd, gyda’r defnyddwyr yn cael ei ail-gyfeirio i’r hafan newyddion (er fod llun y stori nodwedd wedi torri ar hyn o bryd).

Mae nhw wedi cael gwared o’r gallu i ddewis ychwanegu adrannau a dewis rhanbarth. Efallai fod hyn dros dro tra fod gwaith yn cael ei wneud i’w ddiwygio, ond mae hyn yn datrys ar unwaith y broblem o ddefnyddwyr yn gweld adrannau’n diflannu. Dim mwy o glirio cwcis! Fe allwch chi dal wneud smonach o’r dudalen drwy greu dolenni arbennig er enghraifft ond fe ddylech chi allu fynd nôl i’r Hafan eto a fe fydd popeth yn iawn.

Mae’r HTML tu ôl i bob stori wedi newid a’i wneud yn lanach nag o’r blaen, sy’n gwneud hi’n bosib rheoli yr arddull yn llwyr drwy CSS. Mae hyn wedi ei wneud ar gyfer pob stori yn yr archif hefyd. Does dal dim amser ar erthyglau a mae’r ffontiau dal yn hyll, felly gobeithio fydd newid pellach i’r CSS yn y dyfodol agos.

Oherwydd y newid i’r HTML, roedd angen i fi wneud newid bach i’r sgript sy’n crafu’r newyddion ar gyfer Golwg Arall. Dim byd rhy gymleth yn y pen draw.

Mae’r wefan i’w weld yn llawer cyflymach hefyd, efallai oherwydd nad yw’n gorfod gwneud gymaint o ymholiadau SQL i arddangos tudalennau wedi’i addasu ar gyfer pob defnyddwyr.

Dwi’ ddim yn hollol siwr pam fod gymaint o ymdrech wedi mynd fewn i newid y wefan bresennol. Efallai fod hyn yn achub y sefyllfa dros dro tra fod gwefan newydd yn cael ei adeiladu? Pwy a ŵyr.

Postiwyd yn Y We | 1 Sylw