Fideo! Disgo! Hitler?

Roedd gen i dipyn o bethau wedi ei llyfrnodi ar YouTube, felly dyma nhw gyda mewn un neges.

Yn gynta Disgo (fersiwn Saesneg yn anffodus) gan Becca White – cynhyrchiad John Grindell. Mae auto-tune wedi cyrraedd Wrecsam!

Mae pawb wedi gwneud y tric ‘isdeitlo Hitler’ ond dyma ymgais Gymraeg gan Eilir Jones. Diolch i Ceri am hwn.

Ac yn ola, trac ‘The Achievements of Man‘ gan yr anhygoel Francis Monkman. Dwi’n cofio’r gerddoriaeth yma raglenni Johnny Ball ond mae’n debyg ei fod yn rhan o trac sain ‘Prisoner Cell Block H‘ hefyd. Roedd fersiwn da o’r trac yma yn agor y ddrama ‘Micro Men‘ yn ddiweddar ar BBC Four.

Postiwyd yn Fideo | 3 Sylw

Symud sianel #2

Fe roedd Elinor o Ofcom ar Wedi 7 heno a wnaeth hynny fy atgoffa i o’r sefyllfa sy’n dal i barhau gyda S4C Digidol.

Yn syml, does dim byd wedi newid, 6 wythnos ar ôl y newid – mae ansawdd y llun dal yn warthus. Fe ddigwyddodd union yr un peth i sianel Five wnaeth symud i Mux 2 ar 30ain o Hydref. Fe wnaeth y cwynion i Five ddatrys y broblem o fewn pythefnos er fod ansawdd y lluniau yn dal i fod llawer gwaeth nag o’r blaen. Mae’n debyg mai dim ond ychydig o gîcs oedd wedi sylwi ond dyw hynny ddim yn esgus dros dderbyn y sefyllfa.

Fel o’n i’n disgwyl, dyw cwyno at S4C ac Ofcom ddim wedi datrys y broblem o gwbl. Dwi wedi derbyn cydnabyddiaeth gan swyddfa Ofcom Cymru ond dim esboniad na unrhyw arwydd fod unrhyw newid am ddigwydd. Efallai fod hyn yn dangos diffyg statws S4C a Ofcom Cymru o fewn y fframwaith darlledu digidol.

Efallai fod angen mwy o bobl i gwyno efallai – felly os ydych chi eisiau gwneud, darllenwch y cefndir yna cysylltwch ag S4C ac Ofcom.

Postiwyd yn Technoleg, Teledu | Sylwadau wedi eu Diffodd ar Symud sianel #2

Adolygu’r BBC

Mae Ymddiriedolaeth y BBC yn gwneud adolygiad o wasanaethau teledu ar hyn o bryd (BBC One, BBC Two a BBC Four yn unig am fod BBC Three wedi ei adolygu o’r blaen), a mae’r holiadur ar gael yn Gymraeg, felly ewch draw i roi eich barn.

Postiwyd yn Teledu | Sylwadau wedi eu Diffodd ar Adolygu’r BBC

O ris i ris

Dyma fideo gwych yn dangos sut i wneud grisiau yn fwy deniadol. Yn bersonol dwi’n dewis y grisiau bob tro – mae’n swyddfa ar yr 2il lawr, ydych chi’n gweld pwynt defnyddio’r lifft?

Postiwyd yn Fideo | Sylwadau wedi eu Diffodd ar O ris i ris

Carl Sagan – Cosmos remix

Fel plentyn yn yr 80au gyda diddordeb yn y gofod, Patrick Moore a James Burke oedd y cyflwynwyr teledu wnaeth ddylanwadu fi. I Americanwyr, Carl Sagan oedd y dyn wnaeth boblogeiddio’r pwnc ar y teledu gyda’r gyfres Cosmos. Wnes i ddim darganfod y dyn na’r gyfres tan y 1990au.

Dyma fideo gwych sy’n samplo y rhaglenni:

Postiwyd yn Cerddoriaeth, Fideo, Y Gofod | 1 Sylw