Be fase’n digwydd petai chi’n cyfuno Doctor Who a 2001: A Space Odyssey? Mae hwn yn wych. Wnaeth yr olygfa olaf wneud i fi fynd sgwî!
Golwg 360 allan o beta?
Llongyfarchiadau i Golwg 360 am ddiweddariad bach i’r wefan a aeth yn fyw toc wedi canol nôs. Mae hyn yn cynnwys porthiant RSS, pum mis ar ôl lansio’r wefan.
Mae yna fan newidiadau eraill fel un o’r pethau yna i newid maint y ffont, sydd ddim yn beth pwysig iawn pan ei fod yn bosib gwneud hynny o fewn y porwr. Ac am y tro cynta mae gyda nhw ffurflen gyswllt – waw! Does dal dim teitlau call ar y tudalennau chwaith.
Fe fydd yn rhaid pendroni beth i wneud gyda gwasanaeth RSS Golwg Arall nawr. Dwi am adael pethau am wythnos neu ddau a fe fyddai’n gweld be wna i o ran ail-gyfeirio yr hen borthiant RSS ac yn y blaen.
Diweddariad: 01:09 – Dyw ei ffeil RSS ddim yn gweithio yn y rhan fwyaf o ddarllenwyr. Ond mae’n gweithio yn Internet Explorer, felly dyna gyd sy’n bwysig. Pam dwi ddim yn synnu?
Galw Gari
Fe gafwyd sylw wrth basio am Gari Williams ar Wedi 7 neithiwr a wnaeth hynny wneud i fi hel atgofion. Roedd e yn un o’n diddanwyr gorau yn yr 80au, yn ogystal a bod yn ddyn hyfryd. Bu farw yn llawer rhy ifanc bron i ugain mlynedd yn ôl.
Fel mae’n digwydd mae clip perthnasol o Gari ar YouTube. Dyma fy mrawd Owain yn cael cyfle i ‘chwarae’ i Everton ar y sioe Rargian Fawr.
A dyma Gari mewn pennod cynnar o’i gyfres ar S4C (a’r gynulleidfa yn eu dillad capel gorau).
Llywodraeth y Cynulliad ar YouTube
Fe wnaeth Vaughan Roderick sôn rhai diwrnodau nôl fod sianel YouTube newydd ar gael o dan yr enw ‘Government of Wales’ ac yn wir mae’n ymddangos ar yr olwg gynta i fod yn sianel swyddogol.
Mae’r sianel yn dweud ei fod yn cynnig “information about Government News a (sic) general information about how the WAG and the National Assembly for Wales works”.
Ond mae yna rywbeth od iawn am y fideos sydd arno – dyw e ddim yn teimlo i fi fel rywbeth swyddogol o gwbl. Gyda llaw fe gafodd sianel ‘LlywodraethCymru’ ei greu hefyd nôl ym mis Mawrth 2009, ond does dim byd arno. Fe gafodd y sianel ‘GovernmentofWales’ ei greu ar y 30ain Hydref 2009 a dwi ddim yn meddwl fod unrhyw gysylltiad rhwng y ddau.
Mae’r fideos i weld yn slic ar yr wyneb am eu bod nhw yn defnyddio yr holl driciau a’r traciau sain sydd ar gael yn iMovie. O ran y cynnwys mae nhw’n amatur ac yn weddol ddi-bwynt. Mae yna fideo un munud o hyd a’i unig bwrpas yw dangos dau baragraff am gyfarfod y pwyllgor cyllid sydd wedi ei dynnu o stori gan y BBC! Os ydi hwn yn sianel swyddogol na fyddech chi’n disgwyl cyfweliad bach byr gan y gweinidog dan sylw – hynny yw rhywbeth gwerth ei roi ar ffurf fideo? Does dim byd yn y fideos yma na fyddech chi’n gallu darllen mewn 10 eiliad yn lle eistedd drwy fideo 60 eiliad.
Mae nifer o fideos arall yn dangos achlysuron ‘dadleuol’ a ddigwyddodd flynyddoedd yn ôl – ‘Dafydd Wigley storms out’ (yn 1999) er enghraifft. Mae rhain yn cael eu cyflwyno heb esboniad na’r cyd-destun. Nawr mae hwn yn honni bod yn sianel y ‘Llywodraeth’ yn hytrach na’r Cynulliad fel corff, felly mi fydden i’n disgwyl ambell gic tuag at yr wrth-bleidiau, ond ai dyma y ffordd y mae Llywodraeth Cymru am gyflwyno eu hun? Ydi hwn yn helpu ein dealltwriaeth o Lywodraeth y Cynulliad a sut mae’n gweithredu?
Mae fideo rhyfedd arall yn sôn am app Cymraeg i’r iPhone. Nawr fe gyhoeddwyd rhywbeth am hynny ym mis Awst, ond dwi ddim yn defnyddio iPhone felly dwi ddim yn siwr os unrhyw ddatblygiadau arall (does dim byd newydd i’w weld ar y we). Mae’r testun yn y fideo yn cloi gyda’r sylw “The Minister for Heritage and Welsh Language made not (sic) comment” – a nid hynny yw ei deitl iawn ‘ta beth.
Fy nghwestiwn yw felly – ydi hwn wir yn sianel ‘swyddogol’ gan y Llywodraeth neu yn beiriant propaganda gan y boi ‘na sy’n ‘ymchwilydd’ i aelod Llafur? Os y cynta, mae’r sianel yn tipyn o jôc fel ffynhonell ‘swyddogol’ o wybodaeth gan y Llywodraeth. Os yr ail beth sy’n wir, yna dwi’n synnu dim a mae’n dweud i mi nad yw hon yn sianel i’w gymryd o ddifri.
Wrth gwrs, efallai fod y sianel yn adlewyrchiad perffaith o Lywodraeth y Cynulliad – amaturiaid anaeddfed sydd ddim wedi deall sut i gyflwyno gwybodaeth i’r cyhoedd, yn enwedig yn y cyfryngau newydd?
Geocities yn cau
Mi fydd Yahoo, perchennog Geocities yn cau lawr y wefan ar ôl heddiw, a gyda hyn mi fydd llawer o wefannau Cymraeg cynnar yn diflannu.
Fe roedd Geocities yn boblogaidd iawn gyda bandiau, labeli a ffansîns Cymraeg, yn cynnwys Fitamin Un, Welsh Bands Weekly, Brechdan Tywod, Radio Amgen, Llwybr Llaethog, Trawsfynydd Lo-Fi Liberation Front, Zabrinski, GHR2 a mwy.
Mae yna nifer o brosiectau wedi ceisio cadw archif o Geocities cyn iddo gau lawr, a mae’r Internet Archive yn le da i gychwyn (er fod bylchau ynddo yn enwedig gyda’r lluniau). Dwi wedi creu archifau fy hun dros y blynyddoedd, nid yn unig o wefannau ar Geocities ond o wefannau Cymraeg arall sydd wedi diflannu. Efallai ga’i gyfle i’w atgyfodi nhw rhywbryd.