Mae S4C wedi gofyn i’w gwylwyr am gynigion i enwi eu sianel newydd fydd yn darlledu yn HD (yn glyfar iawn, mae nhw’n osgoi y gair ‘cystadleuaeth’). Felly dyma rhai o fy nghynigion i. Does dim rheidrwydd i ddefnyddio ‘S4C’ yn yr enw o gwbl ond mae yna demtasiwn i ddefnyddio’r ddyfais /C hynny.
S4/C Iolo
Sianel wedi ei neilltuo yn llwyr i raglenni wedi eu cyflwyno gan ‘darling’ y sianel – Iolo Williams (a mae yna ddigon o raglenni i’w dangos).
S4/Capel
Mae cynulleidfa S4C reit debyg i gynulleidfa capel – hen bobl, llond llaw o rieni ifanc a’r plant o dan 14 sydd yn cael eu llusgo yno.
S4/Clir
Am fod ansawdd llun S4/C Digidol mor ofnadwy ers y newid digidol, mi fydd y llun HD yn llawer ‘cliriach’ a nôl i’r safon oedd S4/C Digidol yn y lle cynta.
S4/Colur
Fe fydd mawrion y genedl nawr yn ymddangos mewn llun diffiniad uchel fydd yn dangos pob crychyn ar eu gwyneb, felly fe fydd gofyn am fwy o golur yn sicr.
S4/Cwm
Sianel sy’n dangos Pobol y Cwm rownd y cloc a dim byd arall (peidiwch cymysgu hwn a S4C Digidol sydd yn darlledu dewis bach o raglenni eraill rhwng pennodau o Bobol y Cwm).
S4/Cyfan
Mae’r cyfan i’w weld ar S4C mewn manylder uwch (mae hwnna yn lled ddifrifol, ond mae ‘gwyliwch y cyfan’ yn slogan ddefnyddiol i’r sianel ‘gyffredin’ hefyd). Yn anffodus ni fydd y cyfan o raglenni S4C i’w gweld yn HD gan mai darlledu o 6-11pm fydd y gwasanaeth i gychwyn.
Mae rhai sianeli saesneg wedi eu hail-enwi yn llwyddiannus i enwau sy’n swnio’n dwp i ddechrau – fel ‘Dave’. Beth am ddefnyddio’r un dechneg felly – na, nid ‘Daf’, ond rhywbeth fwy addas – ‘Rhisiart‘ efallai?