Google – y lingua franca newydd?

Roedd yn rhaid i fi gysylltu gyda ISP yn yr Almaen wythnos yma. Roedd rhywun anhysbys wedi rhoi copi o hen wefan i fyny, un wnaethon ni ddatblygu yn 2002 ond fe ddaeth y prosiect i ben yn 2008. Roedd rhywun wedi ail-gofrestru y parth gwreiddiol ac yna dwyn hen gopi o’r wefan o’r Archif Rhyngrwyd a’i roi nôl ar y we.

Drwy wneud hynny roedden nhw’n elwa ar yr holl ddolennau oedd yn bwydo traffig i’r wefan, ond fe allen nhw fod wedi gwneud hynny heb ddwyn ein gwaith dylunio a’r cynnwys. Ac wrth gwrs doedd y wefan ddim yn gweithio yn iawn gan nad oedd unrhyw god tu ôl iddo, dim ond HTML statig.

Dyma gyrraedd y pwynt felly – roedd rhaid gofyn i’r cwmni oedd yn darparu’r gweinydd i dynnu’r wefan i lawr. Dwi ddim yn sprechen Almaeneg felly ddanfones i ebost yn saesneg iddyn nhw, gan ddisgwyl y bydden nhw’n deall hynny. Fe ges i ebost dwyieithog nôl yn Almaeneg a saesneg cywir ond roedd yn ateb safonol yn dweud “Mi fyddwn ni’n ymchwilio i’r mater”.

Bore ‘ma fe ges i ebost dwyieithog arall yn dweud fod nhw wedi delio gyda’r mater. Roedd yn amlwg fod y saesneg tro ‘ma wedi ei gyfieithu drwy Google translate. Roedd e’n ddigon dealladwy ond ddim yn hollol glir er mwyn esbonio beth oedd wedi digwydd. Roedd e’n defnyddio’r gair “prosecuted” er enghraifft – oedden nhw wir wedi mynd a’i cwsmer i’r gyfraith? Na – ‘pursued’ oedd y gair. Mae ansawdd cyfieithu Google yn amrywio llawer yn ôl pa gyfuniad o eiriau sy’ mewn brawddeg.

Drwy fwydo mewn gwahanol gyfuniadau o’r frawddeg gan dynnu rhai geiriau neu gyfieithu un gair ar y tro, dwi’n cael nifer o amrywiaethau:

“have pursued corresponding”
“have pursed accordingly”
“have followed accordingly”
“pursued in accordance”
“we have appropriately”

Ond dwi’n deall beth oedd ganddyn nhw. Fe ges i nhemptio i gyfieithu fy ateb i drwy Google ond ro’n i’n meddwl fydde hynny braidd yn haerllug. Fel mae’n digwydd mae cyd-weithwraig yn siarad Almaeneg yn rhugl felly wnes i ateb gyda un brawddeg saesneg ac un Almaeneg.

Fe ges i ateb uniaith Saesneg tro ‘ma, drwy gymorth Google:

Thank you for your emails and help prevent abuse on the Internet. We go every abuse according to the message part of the Internet in our sphere of influence is in accordance with proof.

Eto dwi’n deall yr ystyr ond mae gan gyfieithu awtomatig lle i fynd eto yndoes? Efallai rhyw ddydd fydd hi’n bosib cyfathrebu yn llwyr drwy gyfieithu o’r fath (drwy math yma o ategolyn ar gyfer Thunderbird, er enghraifft). A fydd hyn yn beth da neu gwneud pobl hyd yn fwy diog pan mae’n dod at ddysgu ieithoedd?

Postiwyd y cofnod hwn yn Gwaith, Iaith. Llyfrnodwch y paraddolen.

One Response to "Google – y lingua franca newydd?"