Archifau Categori: Newyddion
Anrhydedd i Alan
Llongyfarchiadau i Alan Cox am gael Gwobr Cyflawniad Oes yn noson wobrwyo Cynhadledd Linux World a gynhaliwyd nos Fercher. Hoffwn rhoi gwobr ‘cyflawniad’ fy hun i Telsa am fyw gyda Alan dros y blynyddoedd 🙂
Pwyswch y botwm coch
Dyna’r frawddeg fyddwn ni’n clywed flwyddyn nesa ar S4C mae’n debyg, wedi i’r sianel arwyddo cytundeb gyda gwmni emuse o’ Iwerddon ar gyfer ei meddalwedd sy’n greu gwasanaethau ‘botwm coch’ i deledu. Mae’n rhyfedd ei fod wedi cymryd cyhyd i … Continue reading
Rhy cŵl i’r Gymraeg
Roedd stori heddiw ynglyn a gwefan newydd Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd. Enw’r wefan ydi cwlfly.com – CWL ydi cod rhyngwladol y maes awyr a nid ymgyrch farchnata i wneud hedfan o Gaerdydd yn cŵl. Dechrau o’r newydd felly – cyfle … Continue reading
Trenau Arafa Cymru
Yn ôl eitem newyddion fach fan hyn mae ‘dogfennau gafodd eu rhyddhau gan Lywodraeth y Cynulliad’ (lle? mae’n amhosib darganfod unrhywbeth ar gwefan grap y Cynulliad) yn dweud y byddai Trenau Arriva yn colli £70,000 (yn flynyddol, dwi’n tybio) os … Continue reading
ffatri born
Newydd ddarllen stori am ddyn yn cynhyrchu fideos porn mewn ty ym Mae Caerdydd. Wel wel, mae hyn tua canllath o’r swyddfa.. pwy fase’n meddwl? Dwi ddim cweit yn adnabod y disgrifiad “quiet, affluent area” chwaith.