Archifau Categori: Lluniau

Trwy’r coed

Dyma un darn o’r olygfa sy’ gen i o’r swyddfa newydd. Mae hyn yn gwneud gwahaniaeth mawr o edrych allan ar wal frics. Ydych chi’n gwybod be sy’n cuddio tu ôl y coed? (cliciwch am lun mwy)

Postiwyd yn Gwaith, Lluniau | 2 Sylw

Eira

Caerdydd, Chwefror 8fed 2007 Caerdydd, Rhagfyr 1981

Postiwyd yn Lluniau | 3 Sylw

Allan o ffocws

Mae nifer yn y byd blogio wedi cyfeirio at luniau arbennig Olivio Barberi lle mae’n defnyddio lens arbennig i greu’r argraff fod golygfa o’r awyr yn edrych fel model bach. Mae’r cefndir allan o ffocws yn creu dyfnder yn yr … Continue reading

Postiwyd yn Lluniau | 1 Sylw

Cwch ar dân…

Newydd gael llun ar ffôn gan fy mrawd, sydd lan yn ynysoedd y Shetland ar gyfer gŵyl Up Helly Aa. Mae’n edrych yn gynhesach fynna na mae e fan hyn yn y tŷ.

Postiwyd yn Bywyd, Lluniau | Sylwadau wedi eu Diffodd ar Cwch ar dân…

Arddangosfa Encore

Mae gan y Llyfrgell Genedlaethol arddangosfa ar lein newydd yn dilyn hanes cerddoriaeth Cymru o’r canol oesoedd i gerddoriaeth pop, fodern. Mae yna nifer o luniau neis yna hefyd, yn cynnwys Caryl Parry Jones mewn gwisg lachar iawn a Beganifs … Continue reading

Postiwyd yn Cerddoriaeth, Lluniau, Y We | 3 Sylw