Archifau Categori: Teledu
Peli a ffrwythau
Llynedd, fe wnaeth Sony wneud hysbyseb ar gyfer ei setiau teledu LCD newydd, gyda’r brand Bravia. Er mwyn gwneud hyn fe wnaethon nhw ollwng miloedd o beli rwber lawr un o strydoedd serth San Francisco. Dyma wefan yr hysbyseb le … Continue reading
Cronfa Rhaglenni’r BBC
Yn ddiweddar fe wnaeth y BBC rhoi ei gatalog o raglenni ar lein. Mae’n adnodd gwych i gîcs teledu/radio fel fi neu unrhyw un sydd eisiau gwneud ymchwil mewn unrhyw faes. Chwilio am enwau yw’r cam amlwg cynta. Er enghraifft, … Continue reading
Yr IT Crowd
Mae rhaglen gomedi newydd yn dechrau ar Channel 4 mis nesa, yn canolbwyntio ar y gwaith di-ddiolch hynny sy’n rhan hanfodol o bob busnes heddiw – yr adran technoleg gwybodaeth. Mae’n argoeli’n dda am mai Graham Linehan yw’r awdur ond … Continue reading
Archif Newyddion BBC
Mae’r BBC wedi agor archif o’i adroddiadau newyddion. Sdim llawer yna eto yn ystod y cyfnod arbrofol ond fe allai fod yn adnodd diddorol tu hwnt.
Dr Pwy a’r Graske
Ar ôl y bennod Nadoligaidd gwych o Dr Who, dangoswyd pennod ‘rhyngweithiol’ byr, Attack of the Graske. A dyma esbonio o’r diwedd pwy oedd yn ffilmio nôl ym mis Tachwedd. Roedd hi’n bennod rhyngweithiol iawn mewn mwy nag un ffordd … Continue reading