Archifau Categori: Cyfryngau
Y Syniad Mawr Nesaf
Ychydig iawn o syniadau gwreiddiol i wneud arian mawr sydd yn y byd ‘ma, ond unwaith i un person lwcus wneud ei ffortiwn mae pawb arall yn meddwl ei fod hi’n hawdd i nhw wneud union yr un fath. Llynedd fe ddaeth nifer o storïau am wefannau yn llwyddo i dyfu mor fawr a dylanwadol fel fod cwmnïau arall am eu prynu. Yr enghraifft amlwg ym Mhrydain oedd Friends Reunited, a gafodd ei brynu gan ITV oedd yn gweld gwerth y wefan fel llwyfan hysbysebu. Continue reading
Sioni’r Sbwng
Mae Bwrdd yr Iaith wedi lansio ymgyrch bach heddiw o’r enw ‘Kids soak it up‘ (yr iaith hynny yw). Mae’r deunydd hyrwyddo yn defnyddio cymeriad bach rhyfedd – dwi ddim yn siwr beth yw ei enw ond dwi am ei … Continue reading
Buchedd quotes
Newydd ddod ar draws un arall o’r gwefannau chwerthinllyd hynny wedi’u cyfieithu drwy feddalwedd TranExp (wnaeth y cwmni seilio ei geiriadur Cymraeg ar wybodaeth wnaethon nhw ‘fenthyg’ o’r we a fe wnaethon nhw gamdeall y fformat mae’n debyg). Cwmni Fesen … Continue reading
Yr IT Crowd
Mae rhaglen gomedi newydd yn dechrau ar Channel 4 mis nesa, yn canolbwyntio ar y gwaith di-ddiolch hynny sy’n rhan hanfodol o bob busnes heddiw – yr adran technoleg gwybodaeth. Mae’n argoeli’n dda am mai Graham Linehan yw’r awdur ond … Continue reading
Sesiwn Radio Amgen
Mae gen i sesiwn fyny ar Radio Amgen yr wythnos yma. ‘Fel Petai’ yw enw’r trac a gafodd ei ryddhau ar dâp yn 1993. O’n i am sgrifennu darn hir yn esbonio pwrpas y darn ond wna’i ddim nawr..