Archifau Categori: Cyfryngau
Gwynedd Ni
Roedd lansiad gwefan newydd Gwynedd-Ni heddiw, oedd yn brosiect bach difyr i’n dylunwraig Nic.. 5 gwahanol gynllun i’w greu a’r plant yn helpu! Er hynny wnaeth y problemau arferol o ‘dylunio drwy bwyllgor’ ddim amharu ar y gwaith gorffennedig.
Gigalun
Mae’r wefan Gigapan yn caniatau unrhywun i greu lluniau panoramig a ‘chwyddadwy’ gyda camera digidol cyffredin. Dyma lun gwych o seremoni urddo Barack Obama , a dyma un hyfryd o Ben y Fan.
S4C mewn manylder uwch
Dyw e ddim yn syrpreis mawr, ond mae Channel 4/S4C wedi ennill slot ar gyfer teledu HD ar Freeview. Beth sydd ddim yn amlwg yw sut y bydd S4C yn darlledu ei fersiwn nhw yn Nghymru yn ogystal a C4 … Continue reading
BBC Cymru oddi ar yr awyr
Wel mae hyn yn esbonio pam fod sianeli’r BBC wedi diflannu o Freeview heddiw. O’n i’n dechrau poeni fod rhywbeth wedi digwydd i fy mocs digidol am fod pob sianel BBC wedi eu nodi yn ‘scrambled’. Er dwi ddim yn … Continue reading
Croeso i wallau gweinydd Cymru
A peth arall… Dros y flwyddyn ddiwetha, mae gwefannau Croeso Cymru wedi cael ei ail-wampio yn raddol bach. Cwmni o Awstralia oedd yn gyfrifol am y brif wefan o Gorffennaf 2002 ymlaen ond nawr mae’r gwaith wedi mudo nôl i … Continue reading