Archifau Categori: Gwaith

Ar ben fy hun

Dwi ar ben fy hun yn y swyddfa, tra fod pawb yn y dafarn (wel mae rhaid i rywun ateb y ffôn, dyna fe esgus). Dwi’n chwarae cerddoriaeth FrankMusik yn uchel. Perffaith! (ac ydi mae’r blog yma yn dipyn o … Continue reading

Postiwyd yn Gwaith | Sylwadau wedi eu Diffodd ar Ar ben fy hun

Rhwydwaith treftadaeth

Dros y flwyddyn diwetha’ rwy’ wedi bod yn gweithio ar brosiect sy’n darparu mannau gwybodaeth rhyngweithiol ar draws hen ardaloedd diwydiannol De Cymru. A heddiw roeddwn i yn y lansiad swyddogol o brosiect Herian ym Mharc Treftadaeth y Rhondda. Mae’r … Continue reading

Postiwyd yn Gwaith, Hanes | 3 Sylw

Dathlu deg

Mae gwefan newyddion y BBC yn ddeg mlwydd oed. Yr wythnos dwetha wnes i hefyd dathlu deg mlynedd yn gweithio i un cwmni (a felly dwi wedi bod yn darllen gwefan y BBC bob amser cinio ers hynny).

Postiwyd yn Bywyd, Gwaith | 1 Sylw

Gwyddoniadur Cymru

Wyddoch chi mai Abertawe yw dinas wlypaf Prydain? (Oeddwn). Neu mai yng Nghymru y lladdwyd y blaidd olaf, yng Nghregina (Nag oeddwn, diolch am y ffaith hynod o ddiddorol hwn). Mae hyn i gyd a llawer mwy yn y gyfrol … Continue reading

Postiwyd yn Gwaith, Llyfrau, Y We | 1 Sylw

Trwy’r coed

Dyma un darn o’r olygfa sy’ gen i o’r swyddfa newydd. Mae hyn yn gwneud gwahaniaeth mawr o edrych allan ar wal frics. Ydych chi’n gwybod be sy’n cuddio tu ôl y coed? (cliciwch am lun mwy)

Postiwyd yn Gwaith, Lluniau | 2 Sylw