Mae’n boenus weithiau edrych ar y gwefannau Cymraeg sy’n cael ei cynhyrchu gan un dyn yn ei stafell gefn gyda chopi o Dreamweaver a dim clem am ddylunio. Mae gwefannau y Mentrau Iaith yn arbennig o ofnadwy. Dyw’r ffaith fod gan bob un gyfeiriad hollol wahanol ddim yn glyfar iawn chwaith. Mi fyddai cael pob un o dan un parth wedi bod yn gam defnyddiol (ond yn rhy amlwg efallai).
Dyw’r ffaith fod y gwefannau wedi’u cynhyrchu ar gyllid o 5 ceiniog ddim yn esgus dros yr erchyllderau sydd yn cael eu cyflawni yma. Dyw taflu gwybodaeth ar wefan heb drefn na rheswm yn ychwanegu dim at ddatblygiad Cymraeg ar y we.
Ond rhywbeth arall wnaeth ysgogi’r rant bach yma – ers rhai misoedd mae’r negeseuon ebost sy’n dod o un Menter wedi torri oherwydd diffyg dealltwriaeth technegol y rhaglennwr o ffurf cywir ebost. Mae’r ebost yn danfon y pennawd yma:
“Digwyddiad Menter Iaith Abertawe” ebost@menterabertawe.org
Mae hwn yn bennawd annilys – mae angen nodau <> o gwmpas cyfeiriad ebost os oes enw yna hefyd. Mae nifer fawr o weinyddion ebost (yn cynnwys pob un dwi’n reoli) yn gwirio penawdau’r neges cyn ei dderbyn. Mae hyn yn dechneg sy’n atal llawer iawn o sbam ond hefyd yn beth hollol resymol i’w wneud gan fod yna safonau penodol (RFC 2822) ar gyfer penawdau ebost.
Y peth cynta i nodi yw fod hi’n amlwg nad oes neb yn edrych ar y negeseuon sy’n cael eu dychwelyd (neu fownsio) i’r gweinydd , er mwyn eu dileu o’r rhestr. Mae hyn yn dechneg safonol hefyd er mwyn gwneud yn siwr fod y rhestr yn ‘lân’ a ddim yn llawn hen gyfeiriadau sydd ddim yn bodoli rhagor.
A’r ail beth – ar ôl sylweddoli nad oeddwn i’n derbyn negeseuon y Fenter rhagor, mi wnes i yrru nodyn i’r ebost uchod yn esbonio’r broblem a sut i’w ddatrys. Ches i ddim ymateb felly wnes i yrru neges at rhai o swyddogion y Fenter i basio’r neges ymlaen. Wythnosau yn ddiweddarach – dim ateb chwaith felly beth mae dyn i wneud os yw pobl yn rhedeg gwasanaethau ar y rhyngrwyd heb fawr o glem am beth mae nhw’n wneud?
Gan Rhys 15 Tachwedd 2005 - 10:31 am
Newydd weld hwn rwan. Ti’n codi pwyntiau dilys, er fel rwyt yn cyfaddef mae gwefannau unigol y de ddwyrain yn cael eu cynnal ar gyllid bychan ( i ddweud y gwir mae’n cael ei gynnal yn wirfoddol).
Mi wnai ymateb eto pan fydd mwy o amser gyda fi.
Gan dafydd 15 Tachwedd 2005 - 10:45 am
Diolch Rhys. Dwi’n gwybod fod ByIG wedi ariannu gwefan http://www.mentrau-iaith.com – ond efallai fod bai yna am beidio cael gwefan ganolog yn ddigon cynnar. Mae’r wefan honno yn rhyw lobsgows o dudalennau hefyd ond o leia mae e-chlysur yn gweithio.
Gan Aberdare Blog Aberdâr » Mentro Gyda’r Iaith ar y We 19 Tachwedd 2005 - 7:42 pm
[…] Stori hir… fe ddes i ar draws erthygl diddorol ar flog Dafydd Tomos, ac fe ddechreuais i baratoi ymateb… […]
Gan dwyn » Blog Archive » Mentro Gyda’r Iaith ar y We 5 Ionawr 2006 - 6:59 pm
[…] Stori hir… fe ddes i ar draws erthygl diddorol ar flog Dafydd Tomos, ac fe ddechreuais i baratoi ymateb… […]