Dyma ail ran yr arolwg o ddiogelwch ar wefannau (gweler rhan 1) yn edrych yn benodol ar wefannau yr awdurdodau lleol. Mae 22 ohonynt ar hyn o bryd er fod ad-drefnu ar y gweill.
Wrth wneud yr arolwg yma, fe ddaeth hi’n amlwg i mi pa mor wastraffus yw cael 22 o wefannau unigol, i gyd o safon amrywiol. Er hynny mae llawer o’r wybodaeth ar wefannau y cynghorau yn benodol i’w ardal a mae yna fantais pendant i gadw hynny mor lleol a phosib.
Mae yna adrannau ar y gwefannau hyn lle mae diogelwch yn hollbwysig gan fod modd gwneud pob math o daliadau i’r cynghorau ar lein a gwneud ymholiadau a allai gynnwys gwybodaeth breifat.
Fe brofwyd yr holl wefannau yma ar 2014-11-27
Awdurdod Lleol | Sgôr | Nodiadau |
Caerdydd | A- | SSL ar bopeth |
Sir Benfro | A- | Ffurflenni ar secure1.pembrokeshire.gov.uk/ Taliadau ar payments.pembrokeshire.gov.uk |
Sir y Fflint | A- | Dim SSL ar ffurflenni. Taliadau yn allanol ar SSL (Civica) |
Torfaen | A- | Dim SSL ar ffurflenni. Taliadau yn allanol ar SSL (Civica) |
Rhondda Cynon Taf | A- | Dim SSL ar ffurflenni. Taliadau yn allanol ar SSL (Civica) |
Bro Morgannwg | A- | Dim SSL ar ffurflenni. Taliadau ar payments.valeofglamorgan.gov.uk |
Abertawe | A-,C | Ffurflenni ar SSL. Taliadau yn allanol ar SSL (Civica) |
Sir Fynwy | A-,C | Ffurflenni ar SSL forms.monmouthshire.gov.uk Taliadau yn allanol ar SSL (Civica) |
Wrecsam | A-,C | Ffurflenni ar SSL. Taliadau yn allanol ar SSL (Civica) |
Sir Ddinbych | B | SSL ar bopeth |
Merthyr Tudful | B | Ffurflenni ar SSL. Taliadau ar SSL payments.merthyr.gov.uk |
Conwy | B | Ffurflenni a thaliadau ar SSL. |
Blaenau Gwent | B | Dim SSL ar ffurflenni. Taliadau yn allanol ar SSL (Capita) |
Pen-y-bont ar Ogwr | B | Dim SSL ar ffurflenni. Taliadau yn allanol ar SSL (Capita) |
Sir Gaerfyrddin | B | Dim SSL ar ffurflenni. Taliadau yn allanol ar SSL (Capita) |
Sir Geredigion | B | Dim SSL ar ffurflenni. Taliadau yn allanol ar SSL (Capita) |
Gwynedd | B | Dim SSL ar ffurflenni. Taliadau yn allanol ar SSL (Capita) |
Ynys Môn | B | Dim SSL ar ffurflenni. Taliadau yn allanol ar SSL (Capita) |
Castell-nedd Port Talbot | B | Dim SSL ar ffurflenni. Taliadau yn allanol ar SSL (Capita) |
Caerffili | B,F | Ffurflenni ar SSL. Taliadau ar SSL payments.caerphilly.gov.uk |
Powys | B,F | Ffurflenni ar SSL. Taliadau ar SSL onlinepayments.powys.gov.uk |
Mae’r canlyniadau yma yn eitha da ar y cyfan. Dwi wedi rhestru rhain yn ôl gradd a sut mae nhw’n delio gyda ffurflenni yn gyffredinol. Mae Caerdydd a Sir Ddinbych yn haeddu canmoliaeth am roi’r wefan gyfan ar SSL.
Mae nifer o’r cynghorau yn defnyddio gwasanaethau allanol i gymeryd taliadau felly mae nhw’n manteisio ar wasanaeth canolog sy’n cael eu ddefnyddio gan nifer o gyrff.
Fe wnes i brofi rhai o’r gwefannau yma cwpl o fisoedd yn ôl a dwi wedi gweld gwelliannau yn barod o ran gwefannau newydd yn cael eu lansio gan rai cynghorau a ffurflenni ymateb yn cael eu diogelu. Mae rhai graddau wedi disgyn o A i A- yn yr un cyfnod – sydd mwy neu lai yn ddibwys ond mae’n dangos sut mae angen cadw golwg gyson ar y gwasanaethau hyn.
Gan Rhys 27 Tachwedd 2014 - 11:01 pm
Diddorol iawn. Fel ti’n dweud, mae cymaint o wahanol daliadau yn cael eu gwneud drwy wefannau’r awdurdodau, a gweithredoedd eraill sy’n golygu rhannu tipyn o wybodaeth. Roedd y broses o ymgeisio am le i’n merch mewn ysgol yn gorfod cael ei wneud ar-lein, felly dwi’n falch o glywed bod Cyngor Caerdydd wedi sgorio’n uchel.