Wnes i sôn am sbam Cymraeg ymhell nôl yn 2005 ond mae natur a bwriad y sbam yn newid drwy’r amser.
Mae sbam ar flogiau a fforymau wedi bod yn boen erioed, ond dwi wedi sylwi ar gynnydd yn ddiweddar wrth i feddalwedd y sbamwyr ddod yn fwy clyfar lle maent yn gallu gorchfygu technoleg gwrth-sbam (dyw Captcha ddim trafferth y dyddiau hyn).
Ar flogiau WordPress dwi bob amser yn defnyddio ategyn Spam Karma. Yn anffodus nid yw wedi ei ddatblygu ers 2009 ond er hynny mae’n gwneud y job i mi ac yn dal pob neges sbam (yn wahanol iawn i rai ategynnau tebyg ar gyfer WordPress).
Heddiw fe wnaeth yr ategyn atal neges sbam ar y blog hwn – un gyda testun Cymraeg. Roedd yn edrych fel sylw go iawn, felly wnes i chwilio am baragraff a dod o hyd i sylw gan Rhys Wynne ar flog Y Twll yn 2010. Dyna ffynhonnell wreiddiol y testun felly ond roedd Google yn dangos fwy o ganlyniadau na hynny.
Mae’r sylw hefyd i’w weld ar wefan y Theatr Genedlaethol, ac ar wefan Oriel Mostyn.
Mae hyn yn adlewyrchu yn wael ar y gwefannau hyn ond mae’r broblem yn fwy na delwedd yn unig. Os nad yw sbam yn cael ei atal neu ei ddileu fe fydd hyn yn gwneud niwed i wefan drwy effeithio ar ganlyniadau chwilio drwy leihau ymddiriedaeth chwilotwyr yn y cynnwys.
Mae creu blog neu wahodd sylwadau ar dudalennau yn eitha sylfaenol y dyddiau yma ond mae angen i ddatblygwyr gwefannau feddwl am y sgîl-effeithiau os yw’r fath dudalennau yn cael eu sbamio ac os oes neb yn eu cymedroli.
Gan Carl Morris 13 Medi 2012 - 9:31 pm
Ddwyt ti ddim yn hoffi Akismet felly?
Dw i wedi gweld enghreifftiau tebyg o sbam Cymraeg. Beth sy’n od iawn ar y dechrau yw’r ffaith bod y sbam yn anelu at beiriannau yn hytrach na phobl. Mae ambell i sbam ebost gallu bod yn ddiddorol ar lefel dynol ond mae sbam ar flogiau yn arbennig o ddiflas ac yn achosi pryderon dirfodol os wyt ti’n darllen gormod.
Gan dafydd 13 Medi 2012 - 10:26 pm
Dwi erioed wedi defnyddio Akismet oherwydd ei fod yn wasanaeth masnachol. Dwi’n gwybod ei fod yn broblem technegol anodd ond mae elwa o atal sbam sy’n deillio o dyllau mewn meddalwedd ychydig yn amheus.
Beth bynnag, mae Spam Karma wedi gwneud y job i fi. Dwi’n ei ddefnyddio ar flog i cwpl o gwmniau a mae’n fflagio pob sbam yn gywir a dim ond cwpl o positif ffug mewn 5 mlynedd.
Mae sbam yn dechrau esblygu mewn cylch dieflig. Mae’n cymryd geiriau dynol, ei addasu ychydig a’i gwasgaru dros y we. Yna mae botiau arall yn dod heibio, darllen cynnwys wedi ei bostio gan fot arall, ei addasu a’i bostio yn ôl. Rhyw ddydd mi fydd yn dod yn hunanymwybodol a wedyn fe fydd rhaid wir ddechrau poeni.
Gan Rhys 14 Medi 2012 - 9:00 am
Baset ti’n meddwl y byddai’r sbamwyr o leiaf wedi cywiro fy teipos! Sylwaf o’r sylwadau ar flog Oriel Mostyn bod nhw wedi copio sylw gan Gareth Morlais ar ei flog BaeColwyn.com ac un arall Cymraeg o rhywle arall.
Clyfar, ond i be?
Gan Rhys 9 Hydref 2012 - 11:16 am
Danfonais ebost at Oriel Mostyn ar y 14 Medi yn eu hysbysu o hyn, ond mae’r sylwadau’n dal yno.
Newydd ddod ar draws un arall ar flog Pethe. Yno ers Mawrth y 5ed.