Dwi wedi bod yn sganio hen doriadau papur newydd o gyfnod cynnar iawn y Rhyngrwyd. Mae’r storiau eu hunain yn ddigon diddorol ond mae’n ddifyr gweld sut roedd papurau newydd yn adrodd ar y cyfrwng newydd. Yn wahanol i’r disgwyl mae’r Cymro yn well na’r gweddill oherwydd dealltwriaeth eu gohebydd Dilwyn Roberts-Young (er does gen i ddim enghreifftiau o’r Cymro yn 1995).
Mae’n bosib fyddai’n darganfod mwy i’w sganio cyn bo hir ond fel cofnod, dyma’r set o luniau ar Flickr.
Gan Carl Morris 14 Ebrill 2011 - 1:30 am
Stwff diddorol, diolch Dafydd.
Cyfle amlwg i’r papurau hefyd.
(Mae archif ar-lein gyda New York Times sy’n dechrau ar dechrau y papur, sef 1851.)