Stwnsho

Ddylwn i ddim synnu bellach am y fath o bethau rhyfedd mae pobl yn trafod ar y we, ond mae hwn yn newydd i fi.

Mae yna wefan ar gyfer pobl gyda fetish rhyfedd iawn sef gwylio pobl yn cael eu gungeio neu stwnsho. Diolch am Stwnsh Sadwrn ar S4C felly! Mae yna hefyd sianel fideo ar YouTube sydd a chlipiau o Stwnsh.

Dyma Tara Bethan yn ei chael hi:

Postiwyd y cofnod hwn yn Hwyl, Y We. Llyfrnodwch y paraddolen.