Mae Scymraeg yn hen, hen stori sydd yn cael ei ‘ail-ddarganfod’ nawr ac yn y man gan y cyfryngau, fel mae’r eitem yma yn dangos.
Mae rhan fwyaf o’r cam-gyfieithiadau yn deillio o ‘beiriant cyfieithu‘ a gafodd ei greu flynyddoedd lawer yn ôl gan gwmni di-glem o’r enw ‘Translation Experts‘. (beth am y trades description act ‘te?).
Mae’r peiriant yn cyfieithu “It is illegal to smoke in these premises” i “Dydy ‘n anghyfreithiol at fyga i mewn hyn premises”.
Mi fyddai’n hawdd datrys hyn i gyd os oedd peiriant cyfieithu gwallus y cwmni yn cael ei waredu o’r we yn llwyr (yn anffodus, mi fydd yn byw ymlaen mewn cynnyrch eraill dwi’n amau). Rhai wythnosau yn ôl wnes i ofyn i Fwrdd yr Iaith os oedd unrhyw beth allen nhw wneud. Mae angen rhyw ‘awdurdod’ (a does dim corff gyda awdurdod cyfreithiol wrth gwrs) ddangos i’r cwmni pa mor warthus yw ei meddalwedd nhw a cynnig cymorth iddyn nhw ddatblygu peiriant gwell.
Dwi wedi cael ymateb gan y Bwrdd yn dweud eu bod nhw yn bwriadu cysylltu gyda’r cwmni. Dwi ddim yn gwybod os fydd y cwmni yn derbyn y cyngor am eu bod nhw’n ymddangos fel cowbois i fi. (Fydde hi’n sbort petai nhw yn trio defnyddio ei meddalwedd eu hunain i drio cyfieithu y cofnod hwn – helo’r twpsod!)
Y ffaith mwy chwerthinllyd yn yr achos penodol yma yw fod cwmni Wilkinson wedi mynd ati i greu arwydd ‘Dim Smygu’ eu hunain tra fod arwyddon dwyieithog safonol wedi bod ar gael am ddim ar y we ers 3 blynedd.