Dim ond 3 diwrnod sydd i fynd nes y bydd arbrawf yr LHC yn cychwyn yn CERN. Mi fydd yr arbrawf yn ail-greu y sefyllfa oedd yn bodoli ar ddechrau’r bydysawd (gyda ffracsiwn lleiaf o’r egni mae’n rhaid dweud).
Fydda’i ddim yn y gwaith y diwrnod hwnnw, felly dwi’n meddwl fydda’n dilyn y diwrnod gyda’r rhaglenni arbennig drwy’r dydd ar Radio 4.
A dyma fideo bach difyr i esbonio’r holl beth mewn 5 munud.
Gan Mei 7 Medi 2008 - 10:20 pm
Ynde! Hollol ecsaited i weld beth fydd y canlyniadau, mae o unai yn mynd i ateb y cwestiwn, neu agor byd arall enfawr o gwestiynnau!
Gan Rhys Llwyd 8 Medi 2008 - 7:40 pm
Dwi’n disgwyl mlaen hefyd. Yr holl beth yn fy atgoffa o hanes Elias a Phroffwydi Baal ar fynydd Carmel yn 1 Brenhinoedd, Pennod 18. Yn ei hanfod y stori yw fod Elias a Chredinwyr y dydd yn cael ‘show down’ gyda Proffwydi Baal, Baal oedd crefydd ‘boblogaidd’ y dydd. Gwyddorniaeth Ddarwinaidd/Big Bang a Seciwlariaeth ffwndametalaidd ydy crefydd ‘boblogaidd’ heddiw fel Baal yn nyddiau Elias. Roedd Proffwydi Baal mor convinced eu bod nhw’n iawn nes iddyn nhw osod arbrawf fynny i brofi mae Baal ac nid Duw Elias oedd yn wir. Wrth gwrs, fe chwythodd yr arbrawf fynny yn eu hwynebau oherwydd i Baal fethu darparu tra darparodd y Duw byw i Elias.
Bydd yn ddiddorol gweld os lwyddith y gwyddonwyr i greu rhywbeth 1/100000000 mor annhygoel a chreadigaeth Duw. Dwi’n amau’n fawr.
Gan Huw Waters 12 Medi 2008 - 9:21 am
Nid mater o geisio greu ‘rhywbeth cystal a Duw’ yw hwn, ond i greu y deunyddiau a oedd bosib yn bresennol adeg y Ffrwydriad Fawr os nath o ddigwydd. Mae mater a gwrth-mater yn bodoli, ond pam fod pop ar y ddaear ac o fewn gafael ni yn fater a nid gwrth-fater?
Os ma mater a gwrth-mater yn dod digon agos at ei gilydd ma pethe od yn digwydd. E.e. os yw electron a phositron yn dod at ei gilydd mae proses o ‘complete annhilation’ yn digwydd, ble mae’r mass yn troi yn ddau photon egni gama 511keV yr un.
Dwi’n edrych ymlaen i weld os nawn nhw ffindio’r boson ma neu beidio. Yn un peth, os mae o yn bodoli sut fydd nhw’n mesur y peth. Byswn i’n disgwyl i’r offer cael eu gwneud o’r bosons ma i allu ‘resolve’ y canfod.