aisiwêls

Wel mae icWales wedi newid ei enw i Wales Online heddiw. Be fydda nhw ddim yn dweud wrtho chi yw mai dyna yr enw gwreiddiol! Yn 1997 roeddwn i’n gweithio ar y fersiwn gyntaf o ‘Cardiff Online’ sef y wefan brawf gyda’r bwriad o’i ddatblygu i fod yn borth genedlaethol.

Ar y pryd, roedd pawb (yn y cyfryngau masnachol) yn credu mai’r dyfodol oedd creu gwefannau lleol i bob tref, felly roedd pawb yn prynu cannoedd o barthau fel ‘cardiffonline.co.uk’, ‘swanseaonline.co.uk’, ‘cwmsgwtonline.co.uk’ ac yn y blaen. Mae’r BBC wedi gallu parhau gyda’r strategaeth o wefannau lleol mewn rhyw ffordd, am nad oes unrhyw ystyriaeth fasnachol. Ond o ran gwerthu hysbysebion, roedd e’n syniad gwael – mae’n well cael pob defnyddiwr i ymweld â un gwefan gynhwysfawr, yn hytrach na degau o wefannau bach.

Rhywbryd ar ddiwedd 1997 fe benderfynwyd nad oedd y tag ‘Online’ yn ddigon da am rhyw reswm, felly roedd yn rhaid newid popeth ‘Total Cardiff’ (tipyn o waith ail-ddylunio a newid yr enw mewn nifer fawr o ffeiliau). Yn 1999 fe brynodd Trinity, perchnogion y Western Mail, grŵp Mirror. Fe arweiniodd hyn at y rhwydwaith o wefannau ‘ic’ a felly fe lyncwyd ‘Total Cardiff’ fewn i icWales.

10 mlynedd yn ddiweddarach mae’r wefan wedi mynd nôl i’r cychwyn – gobeithio fod hyn yn dangos ychydig mwy o annibynniaeth o’i meistri, nid yn unig o ran rhedeg y busnes papur newydd ond o ran ei datblygiadau ar lein, hefyd.

Postiwyd y cofnod hwn yn Cyfryngau, Y We. Llyfrnodwch y paraddolen.

One Response to "aisiwêls"