Dros y flwyddyn diwetha’ rwy’ wedi bod yn gweithio ar brosiect sy’n darparu mannau gwybodaeth rhyngweithiol ar draws hen ardaloedd diwydiannol De Cymru. A heddiw roeddwn i yn y lansiad swyddogol o brosiect Herian ym Mharc Treftadaeth y Rhondda. Mae’r ciosgs yn darparu gwybodaeth am hanes y lleoliad, yn dangos beth arall sydd i’w wneud yn yr ardal a llefydd i aros.
Rôl fach oedd gen i yn yr holl beth – rwy wedi bod yn helpu gosod pob ciosg yn y gwahanol leoliadau a’u cysylltu i’r we. Gan mai y cynghorau lleol sy’n darparu’r cysylltiad rhyngrwyd fel arfer, mae hynny wedi bod yn dipyn o sialens a dweud y lleia. O ran technoleg, mae’r ciosg wedi ei wneud o ddur gloyw a gwydr a mae cyfrifiadur bach twt wedi ei guddio tu fewn iddo. Mae’r cyfrifiadur yn rhedeg dim byd mwy clyfar na Windows XP a porwr arbennigol sy’n atal pobl (wel, plant) rhag ffidlan gyda’r peth. O leia dyna’r theori.
Roedd y teulu Griffiths o gyfres teledu’r Coal House yno yn eu dillad o’r cyfnod oedd yn helpu’r awyrgylch. Wnaethon nhw grybwyll y ffaith fod cyfres newydd o’r Coal House ar y gweill. Fe wnaeth y Gweinidog Diwylliant, Rhodri Glyn, araith fer gan gyfaddef nad oedd wedi gweld y Coal House a plîs allai’r BBC ddanfon “CDs” ato. Dechrau da.
Heblaw am y lansiad, y peth pwysig oedd y ‘cyfleon lluniau’ i bob un o’r partneriaid sy’ wedi cyfrannu i’r prosiect. Roedd y teulu yn amyneddgar iawn wrth dynnu lluniau am hanner awr ond mae nhw’n edrych fel petai nhw’n mwynhau y sylw. Wrth sefyll gyda nhw yn y ‘bwffe’ nes ymlaen mae’n amlwg nad ydyn nhw wedi blino am siarad am eu profiad 5 mis yn ddiweddarach!
Gan Rhys 19 Mawrth 2008 - 11:40 am
Ces i’r neges canlynol wrth glicio ar ddolen Herian
{Cym.LanguageToggleNeedCookies}
ond unwaith licias ar y blwch, roeddwn ar y wefan yn iawn.
Mae yna tipyn o’r teitlau yn y colofn chwith heb eu cyfieithu, neu wedi eu cyfieithu’n wallus
‘Fwy….’ yn lle ‘Mwy…’ (mae treiglo di angen ar ddechrau brawddeg yn wirion)
Resources Cym > Acses Arweinyddion
Resources Cym > Etifeddiaeth Map
Resources Cym > Briefing Papurau
Wrth glicio ar y gwahanol ‘Resources Cym’ dim ond fersiynnau Saesneg sydd ar gael, ac am ryw reswm dwi’n cael trafferth agor y PDF’s a y fersiynnau Cymraeg a Saesneg (mae’n mynd a fi i ‘application/unknown’ yn gyntaf)
Gan Dafydd Tomos 19 Mawrth 2008 - 11:52 am
Ie, yn anffodus mae gwefan gorfforaethol Herian yn wael (er mai dim ond 4 mlwydd oed yw e) a wnaethon ni ddim cael y contract i wneud hwnna (!).
Mi fydd gwefan gyhoeddus newydd ar gyfer y prosiect ‘ciosg’ a mae’n bosib gweld y ciosgs eu hunain mewn llefydd fel canolfannau croeso Caerdydd/Merthyr, Castell Cyfarthfa, Big Pit a nifer o amgueddfeydd bach arall.
Gan Rhys 19 Mawrth 2008 - 12:22 pm
er mai dim ond 4 mlwydd oed yw e
O diar, roeddwn yn meddwl ei fod yn newydd