Mae trosglwyddo gwybodaeth yn ddiogel ar y we yn gwbl hanfodol erbyn hyn. Enw’r dechnoleg yw SSL neu TLS – gweler blogiad cynt am esboniad – ac amgryptio (encrypt) y wybodaeth dros y rhwydwaith yw’r nod. Mae safonau amgryptio yn amrywio – dros amser mae’r algorithmau yn gwella a mae gwallau yn cael eu darganfod, felly rhaid gwneud yn siwr fod y dechnoleg yn cael eu ddiweddaru yn gyson.
Wrth reswm fe ddylai unrhyw daliadau ar lein fod yn ddiogel. Ar gyfer gwefannau masnachol neu wasanaethau cyhoeddus mae arfer da yn awgrymu y dylai unrhyw wybodaeth breifat gael eu ddiogelu hefyd e.e. cyfrinair, manylion archeb, cyfeiriad. Dyw’r wefan hon ddim yn defnyddio SSL am nifer o resymau: a) y gost, b) mae’n wefan bersonol, c) does dim gwasanaeth cyhoeddus hanfodol arno.
Dwi’n amau nad yw’r rhan fwyaf o ddefnyddwyr yn sylwi os yw gwefan yn ddiogel, ond mae eraill yn edrych am symbol y ‘clo’ yng nghornel y porwr neu ‘https’ yn y cyfeiriad. Er fod hyn yn arfer da, mae llawer mwy i ddiogelwch na hyn – fe allai gwefan ‘ddiogel’ fod yn anniogel mewn rhai sefyllfaoedd.
Mae hi’n bosib rhedeg profion ar wefannau i weld pa mor effeithiol yw’r diogelwch, a fe all hyn ddatgelu faint o sylw mae’r gweinyddwr yn ei roi i ddiweddaru y gweinydd sy’n cynnal y wefan. Rwy wedi cynnal arolwg ar rai o wefannau Cymreig i weld sut mae mae nhw’n defnyddio SSL. Dwi’n rhoi sgôr isod i brofi ‘cryfder’ y diogelwch – mae hyn yn deillio o brawf SSL Labs. Mae gradd A neu B yn dda, C angen gwella a mae F angen sylw brys.
Fe brofwyd y gwefannau yma i gyda ar 25/11/2014
Gwefan | Gradd | Nodiadau |
Llywodraeth DU | A | Popeth ar SSL |
Cynulliad Cymru | A- | Rhai ffurflenni ar SSL |
Principality | A- | Adran gyfrifon ar SSL |
NHS Cymru | B | SSL ar gael ond ddim mewn defnydd amlwg |
Canolfan Mileniwm Cymru | B | SSL ar yr adran archebu |
Portmeirion | B | SSL ar y tudalennau talu |
Eisteddfod Genedlaethol | B | SSL ar y tudalennau talu |
Gwales | B | Mae’r siop ar SSL |
Venue Cymru | C | Popeth ar SSL |
S4C | F | SSL ar gael. Dim tudalennau diogel i’w gweld |
Comisiynydd y Gymraeg | F | SSL ar gael. Ffurflenni ddim yn ddiogel |
Llywodraeth Cymru | F | SSL ar gael. Dim tudalennau diogel i’w gweld |
Prifysgol Caerdydd | F | SSL ar gael. Dim tudalennau diogel i’w gweld |
Llyfrgell Genedlaethol | F | Rhai adrannau diogel e.e. cofrestru |
Amgueddfa Cymru | F | Dim SSL yn gyffredinol. Siop a rhoddion yn defnyddio taliad allanol e.e. Paypal |
O edrych ar y gwefannau sy’n sgorio F – mae’n amlwg fod rhywun wedi mynd i’r drafferth o brynu tystysgrif SSL ar gyfer bob un (weithiau ar gyfeiriad sy’n wahanol i’r brif wefan). Ond nid pawb sy’n defnyddio y dechnoleg pan mae ar gael ac efallai fod hyn yn esbonio pam nad yw’r dechnoleg ar y safonau diweddaraf hefyd.
Sut mae’r pleidiau gwleidyddol yn wneud?
Plaid | Gradd | Nodiadau |
Plaid Werdd Cymru | B | Dim SSL ar ffurflenni. Ymuno drwy prif wefan Blaid Werdd (ar SSL) |
Plaid Cymru | F | SSL ar rhai ffurflenni e.e. Ymuno a chyfrannu |
Llafur Cymru | F | Dim SSL ar ffurflenni. Tudalen SSL i ymuno yn rhoi rhybudd. Ymuno ar brif wefan Llafur |
Ceidwadwyr Cymru | F | Dim SSL ar ffurflenni. Ymuno drwy prif wefan Ceidwadwyr |
Democratiad Rhyddfrydol Cymru | F | Dim SSL ar ffurflenni. Ymuno drwy Google Docs! |
Ddim mor dda felly. Mae yna wall eitha sylfaenol ar wefan Llafur Cymru am fod y dudalen “Ymuno â’r Lafur” (sic) yn cyfeirio at hen dudalen ar prif wefan Llafur, sy’n annilys bellach:
Os yw rhywun yn rhedeg gwefan e-fasnach, mi fydd angen pasio profion rheolaidd o dan drefn PCI, a mi fydd y profion yn darganfod y gwallau uchod. Hyd yn oed os nad oes taliadau yn cael eu derbyn ar wefan ddiogel mae hi dal yn ddyletswydd i gadw’r dechnoleg yn gyfredol.