Mae yna ryw fath o thema i gofnod heddiw sef meddalwedd agored a gwasanaethau am ddim. Does dim fath beth a meddalwedd ‘am ddim’ wrth gwrs – nid dyna ystyr y gair yn ‘free software’. Mae meddalwedd agored yn ddefnyddiol iawn i adeiladu gwefan neu wasanaeth defnyddiol yn rhwydd. Mae’r gost yn dod o addasu, cynnal a diweddaru.
Er mai adeiladu gwefannau pwrpasol yw ein arbenigedd, weithiau mae’n haws defnyddio meddalwedd oddi ar y silff ar gyfer blogiau syml, fforymau ac ati. Mae cadw’r meddalwedd yn gyfredol yn rhan o’n gwasanaeth lletya, a dyna o’n i’n wneud heddiw.
Mae ganddo ni tua hanner dwsin o flogiau WordPress mewn gwahanol lefydd a cwpl o rai mewnol felly wnes i wneud yn siwr fod y rheiny wedi eu diweddaru. Nid fersiwn WordPress ei hun yw’r drafferth gan fwyaf ond yr holl ategynnau sy’n cael eu defnyddio. Yn aml iawn dyna lle mae’r gwallau diogelwch hefyd, felly rhaid sicrhau bod y patshys yn cael eu gosod.
Yn fewnol rydyn ni’n defnyddio Docuwiki ar gyfer cofnodi pob math o wybodaeth ar ein systemau yn ogystal a canllawiau a dogfennaeth technegol. Roedd angen diweddaru hwnnw.
Fe ges i gyfarfod cyflym hefyd i drafod meddalwedd e-ddysgu Moodle. Dwi’n cynnal un gwefan o’r fath yn barod a mae cleient arall wedi holi am y meddalwedd. Dyna un arall lle mae yna ddatblygiad cyson a mae yna prif fersiwn newydd yn dod allan bob chwe mis. Felly mae yna fwy o gost na’i osod yn y lle cynta, mae angen meddwl am y diweddaru cyson a profi i wneud siwr nad oes dim byd yn torri.
Yn olaf am heddiw roedd trafodaeth am ddefnydd un gwefan o API Google Maps. Mae Google yn gosod cyfyngiad ar ddefnydd mapiau o ran nifer o alwadau i’r API. Mae’r wefan yn un lle mae mapiau yn nodwedd hanfodol a mae’r wefan yn prysuro. Er hyn dyw hi ddim wedi pasio’r cyfyngiad eto (25,000 dangosiad y diwrnod) ond roedd angen esbonio i’r cleient be fasen digwydd os oedd angen iddyn nhw brynu trwydded fasnachol. Efallai fod y frechdan yn flasus ond nid yw’r caws am ddim!
Gan Rhodri ap Dyfrig (@Nwdls) 7 Gorffennaf 2014 - 11:33 am
Ges i’r broblem freemium efo Tiki Toki ar Hanes y We Gymraeg. Hyn a hyn o views tu allan i Toki Toki oedd o’n caniatau sydd yn ddigon teg. Yr unig beth ydi bod y rhan fwyaf o wefannau fel hyn yn ceisio dy dynnu mewn i daliad misol pan fo arian prosiect (grant yn arbennig) ddim yn gweithio fel yna a byddai’n well gallu cael opsiwn ffi fflat. Ond dyw ffi fflat ddim cystal i’r gwerthwr chos ma na lai o siawns neith pobl jest anghofio eu bod yn talu y ffi y tu hwnt i’r cyfnod oedden nhw wedi bwriadu.
Gan Carl Morris 10 Gorffennaf 2014 - 6:20 pm
Mae rhai o fy mhrosiectau yn elusennol neu nid-am-elw ac mae rhai o gwmnïau yn fodlon cynnig gostyngiad neu hyd yn oed gwasanaeth am ddim.
Dw i’n cymryd bod rhai yn awyddus i dyfu yng Nghymru/Ewrop hefyd ac yn hapus i roi cytundebau arbennig i fabwysiadwyr cynnar.
Mae UserVoice yn enghraifft o gwmni sydd wedi cynnig bargen i mi yn ddiweddar. Ond byddwn i’n cymryd bod Google yn eithaf llym erbyn hyn.
Dw i wastad yn gofyn am fargen ta beth!