Mae S4C yn 30 oed a felly mae’r prif weithredwr newydd wedi mentro allan o’r swyddfa ym Mharc Tŷ Glas i wneud cyfweliadau di-ri yn esbonio ei weledigaeth ar gyfer y sianel. Mae y ‘dyn tawel’, Ian Jones, bob amser yn siarad yn bwyllog, rhesymol a synhwyrol.
Er hyn mae ei sylwadau mor belled yn dueddol o ategu’r hyn sy’n amlwg ac yn disgrifio strategaeth y ddylai S4C fod wedi dechrau dilyn pum mlynedd os nad degawd yn ôl – pan oedd yr arian ar gael. Dyw e ddim fel petai’r chwyldro digidol wedi cyrraedd dros nos.
O wrando ar rhai o gyfweliadau hirach Ian Jones ar y radio mae’n amlwg ei fod wedi gwneud tipyn o waith paratoi yn barod i lusgo S4C yn agosach i 2012, er fod dileu eu gwasanaeth HD ar Freeview yn gam yn ôl i’r gorffennol. Yn anffodus, pan cyhoeddwyd diwedd Clirlun ni ddatgelodd y sianel unrhyw syniadau ar sut oedden nhw’n bwriadu darparu cynnwys S4C HD ar blatfformau amgen, os o gwbl.
Un o’r syniadau sy’n codi yn eu gyfweliadau yw rhoi troslais saesneg ar rai rhaglenni. Mae’n anodd gwybod o le ddaeth y syniad. Yng nghyfweliad Huw Thomas gyda Ian Jones, Huw sy’n codi’r mater gynta ond efallai daw hynny o ddogfen briffio o flaen llaw.
Mae’r sylwadau erthygl am y syniad ar Golwg 360 yn dangos nad yw’r rhan fwyaf o siaradwyr Cymraeg yn cytuno gyda’r syniad, er dwi ddim wedi clywed barn siaradwyr uniaith saesneg (yng Nghymru a thu hwnt). Mi wnes i ddechrau sgrifennu ymateb ond fe dechreuodd fynd yn draethawd, felly dyma hi isod.
Y peth cynta i nodi yw fod Ian Jones yn dweud yn glir mai arian masnachol S4C fyddai’n ariannu unrhyw arbrofion fel hyn, nid y cyllid cyhoeddus.
Er hyn mae hi’n syniad rhyfedd. Mae’n un o’r syniadau hynny sy’n cael eu cynnig gan wleidyddion heb ddealltwriaeth o gynhyrchu rhaglenni teledu nac o anghenion cynulleidfa. Yn ymarferol, dwi’n amau os y byddai gwylwyr di-Gymraeg yn mwynhau’r profiad. Mae cynnig sylwebaeth ar chwaraeon yn un peth ond pa raglenni arall sy’n addas i’w trosleisio?
Mae trosleisio cartwnau neu animeiddio yn gwbl addas ynghyd a rhai rhaglenni plant. Does dim synnwyr i drosleisio perfformiadau cerddorol, heblaw am y pytiau bach o gyflwyniad. Mae’n anodd meddwl am unrhyw fanteision chwaith o drosleisio adloniant ysgafn neu gomedi, lle mae gymaint yn dibynnu ar y perfformiad gwreiddiol heb sôn am gyd-destun ieithyddol a chymdeithasol.
Beth am raglenni cylchgrawn, newyddion a materion cyfoes? A fyddai’n cyflawni unrhyw beth yn well na is-deitlau? Yn ogystal, mae’r rhaglenni yma naill ai yn fyw neu yn cael eu paratoi ar frys, felly fe fyddai angen ‘cyfieithu ar y pryd’ – ateb annigonol iawn.
Mae hyn yn gadael dramau a rhaglenni dogfen.
Mae Cymry Cymraeg mor gyfarwydd a’r iaith saesneg a diwylliant eingl-sacsonaidd fel fod y syniad o drosleisio rhaglenni i’r Gymraeg yn un hurt i ni. Mae profiad S4C o drosleisio i’r Gymraeg (nid o saesneg) yn dangos ei fod yn gweithio ar gyfer cartwns, ond dim byd difrifol. Mae trosleisio yn un ffordd sicr o wneud comedi allan o ddrama.
Ond mae trosleisio dramau a ffilmiau poblogaidd o’r saesneg i iaith leol yn gyffredin ar gyfandir Ewrop a mae traddodiad hir o wneud hyn. Mae’n debyg fod pobl yn derbyn hyn yn enwedig os nad ydyn nhw’n rhugl yn saesneg a nid dyna ei iaith bob dydd.
Os nad ydych chi’n deall iaith o gwbl, mae’n hawdd gwylio rhaglen gyda is-deitlau. Mae’r trac sain yn gallu toddi i’r cefndir a mae’r ymennydd yn canolbwyntio ar ddarllen a gwylio’r lluniau. Os ydych chi’n deall rhywfaint o’r iaith mi fyddwch chi’n gwrando am eiriau cyfarwydd ac yn darllen yr is-deitlau i drio lenwi’r bylchau. Mae’n bosib ei fod yn ffordd dda o ddysgu iaith ond dwi’n amau y byddai yn amharu ar y boddhad o wylio hefyd.
Does dim traddodiad o drosleisio (heblaw animeiddio) ar deledu gwledydd Prydain a dim tystiolaeth y byddai’n gweithio. Mae yna leiafrif o siaradwyr saesneg sy’n mwynhau gwylio ffilmiau neu raglenni mewn ieithoedd eraill drwy is-deitlau.
Mae’n werth dweud hefyd fod rhaid i’r cynnwys fod yn gythreulig o dda i ddenu siaradwyr saesneg at gynnwys ‘o dramor’, fel mae The Killing a Borgen yn dangos. Mae yna nifer o Gymry di-Gymraeg sydd yn ddigon parod i wylio rhaglenni ar S4C ond dwi’n credu eu bod nhw’n fwy tebygol o wylio os yw’r cynnwys am Gymru (rhaglenni natur, hanes ac ati) neu ddramau safonol.
Os mai denu cynulleidfa mewn byd aml-sianel, aml-blatfform yw’r nod, efallai mai nid trosleisio yw’r ateb, ond codi ymwybyddiaeth o gynnwys S4C a’r gallu i wylio gyda is-deitlau.
Gan Dylan Llyr 2 Tachwedd 2012 - 11:18 pm
Cytuno. Yr unig fath o raglen lle mae modd dychmygu hyn yn gweithio yw cartwnau, ac mae’r rheiny wedi’u trosleisio yn barod!
Yn bersonol, mae’n well o lawer gen i is-deitlau na throsleisio. Wrth wylio ffilm o dramor, fel arfer byddaf yn anghofio’n ddigon buan bod y cymeriadau’n siarad iaith anghyfarwydd. Mae dilyn yr is-deitlau’n dod yn berffaith naturiol, heb amharu ar y profiad cyflawn o gwbl.
Gyda throsleisio, mae rhywun yn tueddu i sylwi ar fân bethau sydd ddim wedi cyd-fynd yn naturiol â’r llun, ac mae hynny’n tueddu i ddifetha’r profiad.