Mae’r toriadau sy’n wynebu S4C yn golygu fod y sianel wedi penderfynu cau y sianel HD ‘Clirlun’ ar ddiwedd 2012 er mwyn arbed £1.5 miliwn y flwyddyn. Dyma esboniad prif weithredwr S4C, Ian Jones:
“Mae’r penderfyniad yn dod yn sgil y gostyngiad sylweddol yn ein cyllideb gyhoeddus. Does dim modd osgoi penderfyniadau o’r fath sy’n anochel oherwydd gostyngiad o 36% mewn termau real yn ein cyllideb. Mae’n bwysig ein bod yn buddsoddi mwyafrif y gyllideb sydd gennym mewn cynnwys er mwyn sicrhau gwerth am arian a chynnig yr arlwy gorau i’n gwylwyr.”
Er mod i’n deall fod rhaid i’r sianel wneud arbedion enbyd er mwyn addasu i’r gostyngiad mawr mewn cyllid, mae cael gwared o’r gwasanaeth HD yn gam gwag. Mae’n ddewis hawdd fydd yn cael effeithiau tymor-hir.
Dyma rhai rhesymau pan na ddylid cau sianel S4C Clirlun:
- HD yw’r fformat safonol ar gyfer pob darlledwr teledu o hyn ymlaen. Lansio mwy o sianeli HD fydd patrwm y dyfodol. Mae rhai gwledydd fel Sbaen am ddarlledu sianeli daearol mewn HD yn unig.
- Dros y blynyddoedd diwethaf mae’r sianel wedi sicrhau fod y rhan fwyaf o rhaglenni’r sianel yn cael eu cynhyrchu i safon HD. Fe wnaeth y cynhyrchwyr a S4C ei hunain fuddsoddiad mawr yn y dechnoleg. Y sefyllfa nawr yw fydd pawb yn dal i gynhyrchu rhaglenni HD ond fod dim modd gwylio’r sianel ar ei orau.
- Fe wnaeth S4C ymladd yn galed i gael slot ar Freeview HD yng Nghymru er mai gofod cyfyngedig iawn sydd i gael ar gyfer y sianeli yma (5 ar y mwya). Mae’n debygol y bydd Ofcom yn ail-wobrwyo y gofod yng Nghymru i Channel 4 HD. Unwaith iddo fynd ni fydd y gofod yma ar gael fyth eto i S4C.
- Ers 2009 mae ansawdd darlledu sianel arferol S4C (SD) wedi ei israddio yn ddirfawr. Fe wasgwyd y sianel i amlbleth heb ofod ddigonol. Mae’r sianel yn darlledu gyda cydraniad 544×576 yn hytrach na 720×576 er fod hyn yn groes i ofynion technegol Ofcom ar gyfer darlledwyr cyhoeddus. Clirlun yw’r unig ffordd o wylio rhaglenni S4C mewn ansawdd derbyniol.
- Un o amcanion S4C yn y dyfodol yw chwilio am gyfleoedd i gyd-cynhyrchu rhaglenni gyda darlledwyr eraill ym Mhrydain neu o gwmpas y byd. Fe allai S4C fod yn y sefyllfa chwithig lle mae rhaglen yn cael ei ddarlledu mewn HD ar sianel arall ond ddim ar S4C ei hunan.
- Nid yw darlledu ar y we neu ar loeren yn ateb digonol fel rwy’n esbonio isod.
Mae Ian Jones yn parhau wrth ddweud:
“Rydym yn gobeithio y bydd modd ystyried gwahanol opsiynau i ddefnyddio manylder uwch ar sawl platfform digidol yn y dyfodol.”
Addewid niwlog iawn yw hwn. Yn y gorffennol nid yw S4C wedi dangos unrhyw ymdrech i ddarparu cynnwys ar blatfformau digidol amgen fel YouTube, Netflix, Lovefilm ac ati. Mae’n bosib darparu rhaglenni safon HD ar y we ond mae’n ddyddiau cynnar iawn yn y maes hwn.
Os mai dim ond 5% o’r gynulleidfa sy’n gallu gwylio Clirlun, canran fechan iawn fyddai’n fodlon neu yn gallu gwylio Clirlun drwy gysylltiad rhyngrwyd. Nid oes gan y rhan fwyaf o boblogaeth Cymru y cysylltiadau band-eang cyflym sy’n anghenrheidiol ar gyfer ffrydio darllediad HD. (er enghraifft mae cyfradd Freeview HD yn amrywio o 3 i 17Mbps)
Mae darlledwyr gyda adnoddau anferth fel y BBC yn darparu rhaglenni HD ar yr iPlayer. Ond nid fformat HD llawn ydi hwn, ond fersiwn cywasgedig iawn er mwyn iddo weithio ar gysylltiadau rhyngrwyd arferol. (cyfradd o 3.2Mbps). Fe roedd gwefan y BBC i lawr am dros awr heno – mae hyn yn dangos nad yw gwe-ddarlledu yn ddibynadwy i gymharu a darlledu dros yr awyr.
Mi fydd yna fwlch o rai blynyddoedd nes i gysylltiadau rhyngrwyd digon cyflym fod ar gael drwy Gymru gyfan i ddarparu gwasanaeth gwe-ddarlledu dibynnadwy. Yn ogystal a hyn mae nifer o ddarparwyr rhyngrwyd yn cyfyngu ar faint o ddata gellir ei lawrlwytho bob mis. Felly mi allai ffrydio fideo HD fod yn ddrud iawn. Ar ôl prynu’r offer, mae Freeview HD yn rhad ac am ddim.
Dyw rhoi Clirlun ar loeren ddim yn ateb chwaith (a nid yw’n llawer rhatach). Fel darlledwr cyhoeddus fe ddylai gwasanaethau S4C fod ar gael ar blatfformau agored – mae hynny’n golygu teledu daearol. Mae’r BBC wedi ymrwymo i fod yn ‘blatfform-niwtral’ a sicrhau y gynulleidfa ehangaf posib. Fel sianel sy’n derbyn rhan fwyaf o’i gyllid o’r BBC, fe ddylai S4C ddilyn yr un egwyddor.
Os mai cynllun cyfrwys yw’r bwriad i ddiddymu Clirlun er mwyn i’r BBC gymeryd y baich o’r gost darlledu, mae’n glyfar. Yn anffodus dwi ddim yn ffyddiog mai hynny fydd yn digwydd. Mae angen i S4C arloesi o ran technoleg ac o ran cynnwys. Mi fyddai diddymu Clirlun yn gam i’r cyfeiriad anghywir.
Gan Heledd 12 Gorffennaf 2012 - 11:23 am
Diddorol, donim yn ymwybodol o hyn… Dylai pawb (gan gynnwys awdurdod a staff S4C) wedi brywdro’n ffyrnicach yn erbyn y toriadau… wedir cwbwl os ddaru’r Cymry beri Thatcher i wneud U turn.. y ddynas ddedodd ‘the lady’s not for turning’ dwi’n siwr efo chydig o effort basa ni wedi medru ennill yr ymgyrch yma!
Dwin gweld dy bwynt efo clirlun ond pwysicach dwin meddwl cael cynnwys… does dim lot o bobol medru fforddio HD bebynag…fyddon costio lot i blestio chwaeth lleafrif sydd efo moethusrwydd o fath deledu… Er ma’r pwynt o S4C yn cael ei gadael ar ol ym maes technoleg yn un deg… Blogiad rili diddorol eniwe! Diolch
Gan dafydd 12 Gorffennaf 2012 - 11:34 am
Diolch Heledd. O ran y gost, os ydych chi’n prynu teledu newydd heddiw, mae bron yn amhosib prynu un sydd ddim a sgrîn HD (o tua £150 i fyny). Mae bocsys digidol Freeview HD ar gael o tua £40. Gan fod S4C wedi buddsoddi gymaint yn y dechnoleg (canran llawer mwy o’i cyllid na darlledwyr eraill) efallai dylai nhw fod wedi hyrwyddo y gwasanaeth llawer mwy.
Gan Heledd 12 Gorffennaf 2012 - 4:09 pm
Dal, ma rhanfwya o fobol ddim am gal teledu newydd am flynyddoedd lawer a hydnoed wedyn ella ail law fydd o… 200 punt yn lot fawr iawn o nres i rei pobol… Ond od ma s4c wedi buddsoddi lot yn barod dyla nw barhau, a gwell gwario ar clirlun o lawer nag ar gyfloga mahoosive awdurdod s4c..
Gan Cai 16 Gorffennaf 2012 - 6:17 pm
Fel person ifanc (o’r de) sydd yn gwylio S4C yn amal iawn (sydd hefyd yn dod o deulu DI-gymraeg), does n’am digon o gynnwys. Wrth gwrs, mae’n rhaid cofio bod S4C yn trio bod POB UN o’r sianeli Saesneg eraill i gal cynnwys i bawb, ond dwi ddim teimlo ei fod nhw yn llwyddo i wneud hyn yn digon cyson i gal trawstoriad eang o wylwyr ffyddlon.
Dwi newydd gorffen ysgol, a dwi’n gwybod yn sicr fod dros 90% o bobl yn fy ysgol i ac yn ysgolion Gymraeg eraill yn yr ardal, ddim hyd yn oed yn ystyried S4C fel sianel teledu sydd yn werth wylio, ddim oherwydd ei fod nhw ddim yn meddwl fod Cymraeg nhw yn digon da i gadw lan gyda beth sydd yn cael ei ddweud ar y rhaglenni ond oherwydd dy’ nhw ddim yn teimlo fod na rhaglen sydd werth tiwnio mewn i. Os dydy’r sianel ddim yn targedi pobl ifanc nawr, wedyn pa obaith sydd gan y sianel yn y dyfodol pan mae’r gwylwyr ffyddlon yn ein gadael ni, a gyda sianeli newydd yn cael ei chreu o hyd, sut ydyn ni yn gallu jyst disgwyl i bobl newydd tiwnio mewn i sianel sydd yn cael ei ystradebu fel sianel i hen bobl a plant ifanc?
Dwi’n deall yn llwyr ei fod o’n anheg iawn ar y gwmniau gynhyrchau ar draws y wlad sydd wedi buddsoddi filoedd ar ben filoedd i fewn i dechnoleg a offer newydd ac hefyd mae’n anheg iawn ar y cynhyrchwyr, pobl camerau, golygu a phawb arall sydd yn gyswllt gyda gweithio mewn HD, oherwydd dyslen nhw fod yn cael y gorau mas o bob un darn o waith mae’n nhw creu.
Ar hyn o bryd dwi’n teimlo fod Clirlun yn ‘luxury’ sydd ddim rili yn hanfodol i sicirhau fod niferoedd o wylwyr ifanc S4C yn codi yn y dyfodol, a fel person ifanc sydd yn cael fy targedi gan canoedd o hysbysebion Saesneg pob dydd i wylio rhaglen teledu newydd nhw, sut gall S4C cystadlu?