Dyma restr o wefannau Cymraeg i chi.
Cymraeg Vending – cwmni o’r Bari sy’n cyflenwi peiriannau gwerthu. Fe gafodd y wefan ei gynllunio yn y flwyddyn 2000 ond mae’n anodd iawn dweud.
Cariad Cymraeg – mi fase’n ddiddorol gwybod beth sydd i fod yma ond dyw’r perchennog ddim wedi gosod y wefan yn llawn eto.
Cymraeg Crystal – dyma rywun arall sydd ddim yn gwybod sut i gyfieithu ‘Welsh’ i olygu’r wlad nid yr iaith.
Mae Ci Cymraeg yn mynd i dudalen ymgyrch adnabyddus Bwrdd yr Iaith ond mae Cymraeg Ci yn mynd i wefan am gorgwn. Aww!
Cymraeg Clir – nid oes Cymraeg ar y dudalen hon, mae e’n glir.
A dyna ddigon o hynny am nawr..
Gan Rhys 12 Ebrill 2011 - 8:23 am
Mae’n syndod beth sy’n dod i fyny ar Yell.com wrth chwilio am ‘Cymraeg’ hefyd.
Wrth ymweld a dy flog di, mae bar coch ar y top yn ymddangos gyda’r neges:
“It sounds like SK2 has recently been updated on this blog. But not fully configured. You MUST visit Spam Karma’s admin page at least once before letting it filter your comments (chaos may ensue otherwise).”
Gan Nic Dafis 12 Ebrill 2011 - 11:24 am
Braf gweld bod Cymraeg Vending dal i fynd; cofio gweld llun o’u fan ar maes-e ers talwm.
Gan Rhodri ap Dyfrig 12 Ebrill 2011 - 4:13 pm
Ma’r animated gif draig gan Cymraeg Vending yn ossym
Gan Carl Morris 12 Ebrill 2011 - 7:07 pm
Megameth
Gan Huw Waters 12 Ebrill 2011 - 7:30 pm
Dwi’n cofio prynu ‘Brechdanau Cymraeg’ yng Nghaerdydd sawl tro.