Fe wnaeth perthynas i mi fynd allan i Batagonia yn 2006 a chymeryd dyddiadur fideo o’r trip. Yn ystod ymweliad a’r ysgol Gymraeg yn Nhrelew, fe wnaeth hi weithdy dawns gyda’r plant. Roedd hi’n defnyddio CD o ganeuon Cymraeg addas yn cynnwys Aduniad gan Lo-Cut a Sleifar. Roedd yn rhaid i fi wneud rhywbeth gyda hyn… felly gwyliwch y fideo yma.
Gan dafydd 26 Medi 2010 - 7:24 pm
Dyna od.. roedd YouTube yn dangos ei fod yn gyhoeddus a mae rhai pobl (heblaw fi) wedi ei wylio. Mae’n iawn nawr beth bynnag.