Mae’n beth da iawn fod y Cynulliad yn rhoi fideos ar YouTube ond gyda presennoldeb mor gyhoeddus mae’n werth gwneud yn siwr ei fod wedi ei wneud yn iawn ondyw ‘e?
Neithiwr o’n i am sgrifennu blog bach yn cwyno am fideo newydd sy’n esbonio am sustem e-ddeisebau y Cynulliad (gollyngwch yr e- os gwelwch yn dda, ‘dyw stwff ar lein yn ddim byd newydd nawr). Ond mae nhw wedi llwytho fideo wedi ei gywiro heddiw. Da iawn felly ond byddech chi’n meddwl fydde’ rhywun yn gwylio’r fideo cyn ei roi ar y we?
Lwcus i mi gymryd copi felly. Dyma deitl gwall-us y fideo ddoe. Roedd y boi camera hefyd yn dweud ‘Start now..” cyn i Delyth Lewis ddechrau siarad a mae hwn wedi ei ddileu yn y fersiwn newydd.
Gan Nic Dafis 15 Medi 2010 - 1:33 pm
Mae “Canwall i Gynulliad” bron yn rhy berffaith, ond yw e?
Gan Carl Morris 15 Medi 2010 - 8:32 pm
Canwall. Perffaith.
Gripe arall. Dylen nhw dderbyn sylwadau rhywsut. Dyw YouTube ddim yn wych am y “cymuned” felly efallai dylen nhw ddechrau rhyw fath o flog am sylwadau.
(Dw i’n disgwyl yr un peth o YouTube y Llywodraeth hefyd, efallai mwy.)