Dwi wedi bod yn defnyddio Bloglines i ddarllen crynodeb o flogiau a newyddion ers 2004 (pan wnaeth Nic ei grybwyll fan hyn). O’n i’n hapus iawn gyda’r gwasanaeth a roedd e’n hwylus iawn.
Mae e wedi bod yn amlwg ers tipyn nad oedd perchennog y cwmni (Ask.com) yn ymroddgar iawn i’r gwasanaeth (does dim tâl i’w ddefnyddio a dwi ddim yn siwr os oedden nhw’n gwneud unrhyw arian ohono). Roedd ‘gwallau mewnol’ yn ymddangos drwy’r amser a dwi’n sylwi erbyn hyn mod i wedi bod yn colli llawer iawn o gofnodion.
Mae Bloglines yn cael ei gau ar Hydref 1af a maen nhw’n rhoi’r bai ar Twitter a Facebook. Dwi ddim wedi fy argyhoeddi gyda eu dadl nhw – efallai mai esgus yw e.
Beth bynnag, wnes i roi cynnig ar Google Reader yn 2005 a 2007 a doeddwn i ddim yn ffan (mae cofnodion maes-e yn ddefnyddiol iawn i gofio’r pethe ‘ma). O’n i’n gyndyn o newid i’r gwasanaeth hwn gan Google, a mi wnes i dreulio peth amser yn rhoi cynnig ar wasanaethau amgen fel Feed Bucket ac Alesti.
Yn y diwedd, wnes i benderfynu mai Google Reader oedd y wefan mwya hwylus a defnyddiol – dwi wedi symud ar draws ers tua wythnos a dwi’n eitha hapus.
Yn ôl logiau’r gweinydd, mae tua 15 o danysgrifwyr yn defnyddio Bloglines o hyd. Felly os ydych chi heb symud o Bloglines eto alla’i argymhell symud i Google Reader, ond dwedwch os oes yna wefannau arall sydd hyd yn oed yn well!
Gan Nic Dafis 15 Medi 2010 - 1:31 pm
Dw i ar Google Reader ers sbel nawr, mae’n lot well nag oedd e’n arfer bod, unwaith ti’n cofio i anwybyddu’r holl rwtsh ti ddim angen.
Gan Carl Morris 15 Medi 2010 - 8:55 pm
Google Reader ond sa’ i’n licio fe cymaint.
Chwilio am rywbeth da ar y desktop sy’n rhedeg yn lleol.
Gan Rhys 16 Medi 2010 - 4:02 pm
Bydda i’n drist yw weld yn mynd. Mae’n rhaid mai ymuno ar ol darllen sylw Noic wnes innau hefyd. Bydd rhaid i minnau rhoi cyfle arall ar Google Reader hefyd.
Beth oed dyn bod ar Alesti? Sylwais fod modd ei leoliedido, er ‘sdim lot o awydd ei leoliedio i’r Gymraeg os nad yw lot o werth.
Faswn i ddim yn gwrthwynebu talu am wasanaeth RSS (£5-£10 y flwyddyn) petai’n ddibynadwy a gyda lot o opsiynnau defnyddiol.
Gan Rhys 16 Medi 2010 - 4:02 pm
Nic, nid Noic
Gan dafydd 16 Medi 2010 - 4:55 pm
@Carl Dwi’n newid rhwng 2 neu 3 o gyfrifiaduron yn ystod y dydd (gwaith+adre) a dwi’n hoffi cael gwasanaeth ar y we yn hytrach na meddalwedd pen-bwrdd ar Windows/Linux. I ddweud y gwir hoffwn i redeg darllenydd gwe ar fy nghweinydd fy hun os oedd meddalwedd da ar gael (dwi wedi rhoi cynnig ar nifer ohonyn nhw).
@Rhys Mae Alesti yn addawol ond mae’r rhyngwyneb ychydig bach yn glogyrnaidd. Mae gen i dros 400 o flogiau ar fy rhestr a doedd e ddim yn hawdd rhoi trefn ar rhain. Ond.. y broblem fwya oedd fod Alesti yn pallu mewnforio nifer fawr o’r porthiannau am rhyw reswm (timeouts ayyb). Mi fyddai’n werth rhoi cynnig arno os nad oeddwn i’n mudo o wasanaeth arall.