Ychydig o flynyddoedd yn ôl fe wnes i ddatblygu system ebost newydd i’r gwaith ac un o’r nodweddion pwysig ar gyfer y system newydd oedd gallu darllen cyfrif ebost ar y we ‘tebyg i Gmail’.
Mae ein system yn defnyddio IMAP ac yn storio’r holl ebost ar y gweinydd a felly mae hyn yn ddigon hawdd i’w ychwanegu. Roedd angen rhywbeth oedd yn rhedeg ar weinydd LAMP (sef Linux/Apache/MySQL a Perl, PHP neu Python – dim ots gen i pa iaith mewn gwirionedd).
Ar y dechrau wnes i ddefnyddio meddalwedd Squirrelmail, sy’n ddigon dda er ychydig yn hyll a’n drysu rhai defnyddwyr. Mae cyfieithiad Cymraeg ohono i gael ymysg nifer o ieithoedd eraill.
Felly tua blwyddyn yn ôl fe wnes i newid i feddalwedd Roundcube – mae hwn dal yn fersiwn cynnar ond mae’n cael ei ddatblygu yn gyson. Wnes i gyfieithu’r pecyn i’r Gymraeg a fe gyhoeddwyd fersiwn 0.4 o’r meddalwedd mis diwethaf.
Dyma sgrîn-lun o rhyngwyneb y meddalwedd:
Gan Huw Waters 6 Medi 2010 - 9:27 pm
Ai Danfon neu Anfon ebost wyt ti?;-)
Gan dafydd 6 Medi 2010 - 10:27 pm
Ie, falle wnai newid hwn er mwyn gwahaniaethu rhwng sent/delivered, er mwyn plesio’r gogs, a Bruce.
Gan meddalwedd gwebost Roundcube ar gael yn Gymraeg (PHP) | Hacio'r Iaith 7 Medi 2010 - 12:05 pm
[…] http://da.fydd.org/blog/2010/09/06/meddalwedd-gwebost/ […]